Fis yma mae Manceinion wedi cychwyn codi treth dwristiaeth ar ymwelwyr.

Bydd angen i chi dalu punt y noson yn ychwanegol i aros dros nos yng ngwestai a llety gwyliau yng nghanol y ddinas boblogaidd a byrlymus sy’n enwog am ei chlybiau pêl-droed a’i bandiau roc.

Gobaith y Mancs yw codi £3 miliwn y flwyddyn drwy’r dreth i “wella profiad ymwelwyr” a “chefnogi twf yr economi ymwelwyr”.