Graddiodd y ferch 24 oed o’r Bala gyda MA mewn Theatr Gerddorol o’r Coleg Brenhinol Cerdd a Drama yn 2019.

Mae hi newydd orffen gweithio ar gynhyrchiad o The Phantom of the Opera yng Ngwlad Groeg, ac wedi rhyddhau sengl newydd sy’n cynnig blas o’i halbwm nesaf.

Am be mae dy sengl newydd, ‘Hed Wylan Deg’?

Wnes i sgrifennu’r gân yn y cyfnod clo tra roedd y diwydiant theatr yn pigo yn ôl fyny ac roeddet ti’n gweld rhai pobol yn mynd yn ôl i weithio. Mae’r gân fel trosiad lle dw i’n gofyn wrth yr wylan: ‘nei di hedfan fi’n ôl?’, fel fy mod i’n gallu mynd yn ôl i weithio hefyd.

Beth allwn ni ddisgwyl o’r albwm newydd sy’n cyrraedd ym mis Mai?

Sŵn hollol wahanol i be rydych chi wedi clywed ar yr albwm gyntaf a dw i’n meddwl bod y themâu dw i’n trafod yn lot fwy personol, pethau sydd wedi codi’n ddiweddar yn fy mywyd. Ond dw i’n meddwl bod hynna’n ddisgwyliedig wrth i artist dyfu fyny a mynd trwy fywyd. Dw i’n teimlo fel dw i’n mynd â’r gwrandawyr ar ryw fath o daith efo fi.

Sut fydd y sŵn yn newid?

Mae hi’n bum mlynedd ers i fi ryddhau fy albwm gyntaf ac mae lot o’r stwff yn bethau wnes i sgrifennu tua 10 mlynedd yn ôl. Ond wrth dyfu fyny a fy mlas i mewn cerddoriaeth yn newid, mae ysbrydoliaeth fi wedi newid hefyd.

Dw i hefyd yn gweithio efo cynhyrchydd newydd, Osian Huw Williams o’r band Candelas. Wnes i fynd ato fo efo’r sŵn ro’n i eisiau. Ro’n i wedi rili mwynhau stwff mwyaf diweddar Taylor Swift, Billie Eilish, a stwff pop cyfoes. A dyna’r math o stamp ro’n i eisiau rhoi ar gerddoriaeth fy hun. A dw i’n meddwl bod Osian wedi gwneud job rili da.

Pwy fues di’n chwarae yn The Phantom of the Opera yng Ngwlad Groeg?

Ro’n i yn yr ensemble ac yn cover rhan Christine. Roedd o’n brofiad anhygoel a dw i’n meddwl bod Covid wedi dangos i fi ba mor bwysig ydy covers mewn sioe.

The Phantom of the Opera oedd y swydd gyntaf ges i syth ar ôl gorffen yn y coleg, rhyw dair blynedd yn ôl. Ond yn amlwg daeth Covid a chau o lawr. Felly es i yn ôl tair blynedd yn ddiweddarach efo golwg hollol newydd arno fo ac roedd hynna’n grêt.

Sut brofiad oedd cael byw yn Athen a Thessaloniki am dri mis?

Roedd o’n grêt ond gwahanol i fod adre yng Nghymru. Roedd y diwylliant yn wahanol. Mae hyd yn oed mynd i’r siop a phrynu nwyddau dydd i ddydd yn wahanol.

Dw i wedi arfer bod on it efo cynllun a wastad yn meddwl am bopeth lot o flaen llaw, ond dw i’n meddwl bod Groeg yn lot fwy chilled out na fi.

Wnes di ddysgu ychydig o’r iaith?

Roedd cast y sioe yn dysgu gair Groegaidd gwahanol i fi yn ystod y sioe bob nos. Erbyn y diwedd ro’n i’n gwybod ychydig o bethau yn yr iaith. Ro’n i’n rili mwynhau achos ro’n i’n gallu ynganu lot o’r geiriau’n gywir gan fod ganddyn nhw lot o synau tebyg i Gymraeg fel ‘ll’ a ‘ch’ – pethau doedd Saeson yn y cast methu dweud.

Beth yw eich atgof cyntaf?

Mae gen i lot o atgofion doniol o fy mhlentyndod achos ro’n i’n blentyn reit ddrygionus. Un o fy atgofion cyntaf ydy cuddio dan grand piano Nain achos do’n i ddim eisiau ymarfer pethau ar gyfer Eisteddfod yr Urdd. Roedd hyn yn rhywbeth dyddiol!

Ges i fy magu yng nghanol nunlle felly ro’n i wastad allan yn chwarae yn y coed ac yn adeiladu dens.

Beth yw eich ofn mwya’?

Llygod mawr.

Beth ydych chi’n ei wneud i gadw’n heini?

Dw i’n gym bunny go iawn. Dw i’n lyfio mynd i’r gym ac mae o’n rhan o drefn fy nydd – codi a mynd i’r gym, pan dydw i ddim mewn sioe. Dw i’n dueddol o beidio mynd pan dw i mewn sioe achos bod sioeau mor heriol yn gorfforol.

Beth sy’n eich gwylltio?

Anghyfiawnder, pobol sy’n caru drama, a diet culture.

Pwy fyddech chi’n gwahodd i’ch pryd bwyd delfrydol… a beth fyddai’r wledd?

Fysa fo’n gorfod bod yn tapas a fyswn i eisiau fy ffrindiau gorau i gyd yna er mwyn cael bwyd da, cwmni da a lot o chwerthin.

Gan bwy gawsoch chi sws gorau eich bywyd?

Dw i’n dal i aros am sws gorau fy mywyd.

Pa air neu ddywediad ydych chi’n gorddefnyddio?

Dw i’n dweud ‘Iesu Grist’ lot rhy aml a lot rhy passive aggressive am rywun ddaru dyfu fyny’n mynd i’r Ysgol Sul.

Hoff wisg ffansi?

Wnes i wisgo fyny fel un o’r Teletubbies, cymeriadau’r rhaglen i blant, efo fy ffrindiau ar gyfer parti yn y chweched. Ro’n i mor browd o’r wisg wnes i fy hun ac roedd o’n lot fawr o hwyl.

Pa ddigwyddiad wnaeth achosi’r mwya’ o embaras i chi?

Wnes i wneud absoliwt lemon o fy hun mewn perfformiad TGAU Drama ym mlwyddyn 10 o flaen yr ysgol i gyd. Wnes i redeg ar y llwyfan fel plentyn yn cogio bod yn awyren ond wnes i fynd cyn o’n i fod. Roedden ni fod yn actio fel grŵp o blant yn chwarae, ond jest fi oedd ar y llwyfan.

Dw i dal weithiau’n meddwl am y peth pan dw i’n trio cysgu yn y nos.

Gwyliau gorau i chi fwynhau?

Wnes i fynd i Monterey yng Nghalifornia flwyddyn ddiwethaf a ges i’r amser gorau erioed. Ro’n i’n mynd i weld ffrind oedd yn byw yno a ro’n i’n gwneud cwpl o gyngherddau allan yna. Dw i’n meddwl mai hwnna ydi’r unig le heblaw am Gymru fyswn i’n gallu mynd a setlo lawr a byw yna. Roedd y golygfeydd yn anhygoel a wnes i weld morfilod a dyfrgwn. Roedd o jest fel rhywbeth allan o lyfr. Roedd o’n anhygoel a dw i’n gobeithio cael mynd eto yn fuan iawn.

Beth sy’n eich cadw’n effro gyda’r nos?

Dw i’n dioddef o orbryder reit ddrwg felly dw i methu cysgu yn aml iawn.

Beth yw’r llyfrau difyrraf i chi eu darllen?

Dw i’n caru Women Don’t Owe You Pretty gan Florence Given. Dw i wedi darllen o dair gwaith a wnaeth o’n bendant helpu fi i ddod i nabod fy hun yn ystod y cyfnod clo. Os fyswn i’n cael awgrymu un llyfr i ffrind, hwnna fysa fo.

Wnes i hefyd rili mwynhau Sgen i’m Syniad gan Gwenllian Ellis. Mae o’n vibe tebyg i Women Don’t Owe You Pretty. Fyswn i’n annog unrhyw un i ddarllen hwnna hefyd.

Hoff albwm?

Midnights gan Taylor Swift. Mae o ar repeat genna’i. Nid yn unig mae miwsig hi’n anhygoel, ond dw i’n parchu be mae hi’n sefyll am a sut mae hi wedi dod dros bethau yn ei bywyd hi. Mae hi’n eiconig.

Rhannwch gyfrinach efo ni…

Dw i’n caru astroleg a dw i’n meddwl bod star signs yn dweud lot am rywun. Dw i’n gwneud lot o benderfyniadau yn seiliedig ar star signs ac astroleg.