Mae’r Ap ar waith yn y brifddinas a’r gobaith yw ei ehangu i weddill y wlad…

Mae dyn ifanc yng Nghaerdydd wedi datblygu Ap newydd sy’n galluogi merched, myfyrwyr ac aelodau o’r gymuned LHDTC+ i gyd-gerdded gartref yn saff gyda’r nos ac yn oriau mân y bore.

Hefyd mae’r Ap yn tynnu sylw at ardaloedd peryglus o’r brifddinas lle mae achosion treisgar ac ymosodiadau diweddar wedi digwydd.