Mae un fu yn llais cyfarwydd ar ein tonfeddi am chwarter canrif wedi troi at y tŵls ac yn gyrru bysus, ac yn edrych at ymlaen at gyflwyno sioe newydd ar MônFM…

Ers i raglen hwyr Geraint Lloyd ddod i ben ar Radio Cymru ym mis Hydref, mae’r cyflwynydd wedi troi at drwsio ceir a gyrru bws ysgol.