Mae’r gitarydd adnabyddus wedi cydweithio gyda llwyth o gerddorion gwahanol ar ei albwm ddiweddaraf, ac yn edrych ymlaen at fynd ar daith o dafarnau’r wlad…

Yn aelod o rai o grwpiau mwyaf y Sîn Roc Gymraeg ers y 1990au, mae project newydd Mei Gwynedd yn gweld y gitarydd yn cyflwyno’i fersiwn ei hun o glasuron Cymraeg.