Wnes i’r peth yna dw i wasdad yn wneud wrth fynd i brynu anrheg i rywun arall – prynu rhywbeth i fi fy hun.

Y plan oedd prynu pyjamas i Dad ar ei ben-blwydd (John Charles Thomas, gan bo chi’n gofyn, yn 68 oed), ond doedd dim modd dod o hyd i dop pyjamas efo dwy lawes – ryw grysau-T o bethau oedd bob dim. A doedd y trowsusau pyjamas ddim yn sbesh chwaith. Mae yna farchnad am garpiau noswylio old skool, oes wir.