Yr wythnos hon roedd y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru yn gorffen casglu tystiolaeth ynghylch pa lwybr ddylai Cymru ei droedio.

Sefydlwyd y Comisiwn yn sgîl y Cytundeb Cydweithredu rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Lafur Cymru ym mis Tachwedd 2021, ac mae wedi derbyn tystiolaeth gan filoedd o unigolion, grwpiau cymunedol ac arbenigwyr.