Gyda gemau rhagbrofol Cymru ar gyfer pencampwriaeth Ewro 2024 yn cychwyn fis yma, Gwilym Dwyfor sy’n cael cip ar y pêl-droedwyr sy’n cystadlu i fod yng ngharfan Rob Page…

Gyda Chwpan y Byd yn teimlo fel oes yn ôl, mae ymgyrch ragbrofol nesaf tîm pêl-droed Cymru ar y gorwel. Ewro 2024 yw’r gôl ac mae’r daith yn dechrau gyda Chroatia oddi cartref a Latfia gartref ddiwedd y mis.