Yn ei gasgliad diweddaraf o gerddi, mae Alan Llwyd yn diolch am deulu a chariad, wrth weld rhyfel a gormes ar bob tu…

Alan Llwyd, y bardd a’r llenor o Abertawe, wnaeth sgrifennu sgript y ffilm Hedd Wyn am erchylltra’r Rhyfel Byd Cyntaf a gafodd ei henwebu am un o wobrau’r Oscars yn 1994.

Ac mae rhyfela wedi dylanwadu ar ei waith diweddaraf hefyd.