Diddorol sylwi ar luniau yn y Wasg o’r cyfarfod diweddar gynhaliwyd yng Nghlwb Rygbi Llanymddyfri i brotestio yn erbyn codi peilonau ar hyd Dyffryn Tywi, mai pobl hŷn (dros eu 60 i raddau helaeth a’r gweddill i’w gweld yn gyfforddus dros eu 40) oedd y rhai blaenllaw i’w gweld. Er y byddwn yn barod i rywun fy nghywiro, roedd absenoldeb gweledol nifer cyfatebol o bobl ifanc yn arwyddocaol.