Mae mis Chwefror eisoes ar ben yma yn Golwg Towers (oce, cyfaddefiad – nid oes gan Golwg gyfres o swyddfeydd mewn tyrrau swanc yn edrych allan dros y môr. Dwi, er enghraifft, mewn atig sydd wedi ei drawsnewid yn swyddfa fach gysurus. A phan dwi’n dweud trawsnewid, yr oll wnes i oedd hwfro’r pryfaid i fol y peiriant sugno llwch, a gosod calendr dan y ffenestr felocs efo thac glas.)