Yr wythnos hon bu farw’r actores Christine Pritchard, yn 79 oed.

Dyma eitem ‘ugain cwestiwn i ddod i adnabod rhywun yn well’ wnaeth ymddangos yng nghylchgrawn Golwg yn 2014, gyda’r actores fu yn perfformio mewn dramâu ar lwyfan, radio a theledu ers y 1960au.

Ar adeg y cyfweliad roedd hi’n sôn am ei rhan yn portreadu ‘Nansi’ a oedd yn cadw tafarn ac yn chwilio am gariadon i ddynion sengl yn y ddrama gomedi Cara Fi ar S4C…

 

Faint o her oedd meistroli acen Sir Benfro ar gyfer eich rhan yn Cara Fi?

Coblyn o her. Nid yn unig meistroli’r acen, mae yna eirfa wahanol hefyd. Nid ydych yn dweud ‘ddoe’, ond ‘dwe’ a ‘wedd’ a ‘wes’ – mae o’n hollol unigryw i’r rhan fechan yna o Sir Benfro.

Roedd yn sialens aruthrol, ond dw i yn mynd lot i Sir Benfro, mae gen i garafán yn Abergwaun, a dw i’n dwli ar y lle.

Mae fy nghlust i wedi arfer efo’r acen, ond roedd dysgu’r llinellau a’u dweud yn hollol gywir yn galetach nag arfer.

Roedd gen i Iwan John yn chwarae fy mab i, ac mae o’n fachgen o Sir Benfro. Felly’r oeddwn i wedi gofyn iddo fo ddweud os oeddwn i’n gwneud camgymeriad. Felly roeddwn i reit lwcus.

Soniwch am eich magwraeth?

 Ges i fy nghodi yn nhref Caernarfon, 12 Stryd Gelert – ddim yn bell o Segontium. Roedden ni’n chwarae yn y gaer yn blant.

Roeddwn i’n unig blentyn, fy nhad yn drafeiliwr yn mynd o gwmpas becwsus bach y wlad yn gwerthu deunydd, a mam yn wraig tŷ.

Beth yw’r cyfnod hira’ fuoch chi heb waith actio, a sut wnaethoch chi ymdopi?

Dw i wedi bod yn ofnadwy o lwcus, heb fod allan o waith lot yn ystod 45 mlynedd o waith actio.

Pan ddes i i Gaerdydd ar y cychwyn mi fues i’n tiwtora dipyn i blant lefel ‘O’, ond wnaeth hynny ond para rhyw flwyddyn.

Dw i ddim yn aml yn dweud ‘na’ i ddim byd.

Mae pobol yr oeddwn i yn yr ysgol efo nhw’n dweud ‘Dwyt ti ddim wedi riteirio eto?’ ac rydw i’n esbonio nad ydan ni yn riteirio – y busnes sy’n riteirio ni. Ddaw’r diwrnod na fydd y ffôn yn canu mwyach…ond yn y cyfamser dw i’n mynd i gario ymlaen tan y diwedd un.

Dw i wrth fy modd yn trio pethau gwahanol – mi wnes i banto Martin Geraint ddwy flynedd yn ôl, ac roeddwn i’n meddwl: ‘Fedra i wneud pantomeim?’

A wnes i wir fwynhau.

Mae gweithio efo pobol ifanc yn cadw chdi fynd, yn cadw dy agwedd feddyliol yn iach.

A fyddech yn ystyried sgwennu hunangofiant?

Fy unig reswm dros wneud fydde i gofnodi’r hanes sut mae bywyd yr actor proffesiynol yng Nghymru wedi datblygu. Pan oeddwn i’n cychwyn, ychydig iawn o actorion llawn amser oedd yna yng Nghymru.

Roedd lot fawr ohonyn nhw’n athrawon, yn weinidogion neu’n ffermwyr neu’n cadw gwestai ac yn dod fewn gyda’r nos neu ar benwythnosau i recordio efo BBC a HTV.

Ar ddiwedd y Chwe Degau daeth yna griw bach a dweud: ‘Na, rydan ni eisiau gwneud hyn yn llawn amser’.

Tasen i’n sgwennu un, Diolch Mr Claridge fydde’r teitl. Roedd o’n athro Hanes yn Ysgol Ramadeg Caernarfon, ac roedd hi’n amlwg i ni mae beth roedd o eisiau bod wir-yr oedd Cyfarwyddwr Llwyfan.

Pan oeddwn i’n 15 oed ges i nghastio mewn cynhyrchiad o Major Barbara gan George Bernard Shaw. Os fysa Mr Claridge heb roi’r rhan yna i mi, hwyrach na fyswn i byth wedi meddwl gwneud y gwaith yma…

Wrth edrych yn ôl, pa waith – ar deledu neu lwyfan – ydych chi fwyaf balch ohono?

Tasa raid i mi ddewis un, mi faswn i’n dewis y gyfres Rala Rwdins, oherwydd mae cenhedlaeth o blant wedi ei gweld a’i mwynhau. Mae pobol yn dal i stopio fi a gofyn ‘Chi oedd Rala Rwdins?’ Mae hynny’n lyfli.

Ydych chi wedi rhannu llwyfan gydag unrhyw un aeth ymlaen i brofi enwogrwydd?

Fues i’n actio mewn drama yn y 1970au o’r enw Tom Jones Slept Here, a phwy oedd yn chwarae ‘Tom Jones’ ond Ken Stott yn hogyn ifanc, ymhell cyn iddo ddod i’r amlwg yn Rebus a The Vice. Dw i wedi dilyn ei yrfa fo, a dw i’n meddwl fod o’n actor ffantastig.

Ydy dysgu leins yn anoddach wrth fynd yn hŷn?

O ydy, yn anffodus! Mae’n rhaid pydru arni a gwneud lot o waith cyn hyd yn oed cychwyn ar yr ymarferion.

Beth sy’n eich gwylltio?

Pobol gydag agwedd negyddol – dw i’n berson gwydr hanner llawn.

Pwy fyddech chi’n gwahodd i’ch pryd bwyd delfrydol… a beth fyddai’r wledd?

Derek Jacobi – un o’r actorion gorau sydd ganddon ni;

Judy Dench – mae hi mor anhygoel a phawb yn dweud ei bod hi’n gymaint o hwyl;

Matthew Rhys – fuo’n ni’n feirniaid Cystadleuaeth Richard Burton ddwy flynedd yn ôl, ac mae’n fachgen hyfryd.

Cimwch thermidor a chrymbl gwsberis i’w fwyta.

Gan bwy gawsoch chi sws gorau eich bywyd?

Fy ŵyr bach Isaac sy’n 15 mis oed.

Pa air neu ddywediad ydych chi’n gorddefnyddio?

Carpe diemmotto fy mywyd.

Oes yna unrhyw rannau neu ddramâu teledu yr hoffech chi fod wedi bod ynddyn nhw? 

Dw i wrth fy modd gyda gwaith Victoria Wood, ac mi fyswn i wedi licio chwarae unrhyw ran yn Acorn Antiques.

Hefyd fyswn i wedi licio bod yn Downton Abbey, yn y gegin yn sgwrio wrth gwrs.

Pa ddigwyddiad wnaeth achosi’r mwya’ o embaras i chi?

Roedden ni’n teithio’r Claf Di-glefyd gan Moliere gyda Chwmni Theatr Cymru, ac roeddwn i a Dafydd Iwan i fod yn ddau gariad yn canu deuawd, a fynta efo’r gitâr.

Ond un pnawn roedd Dafydd Iwan wedi gorfod mynd o flaen ei well yng Nghaerdydd, rhywbeth i’w wneud efo Cymdeithas yr Iaith, a Dyfan Roberts oedd yr understudy.

Wel roedd o wedi tiwnio’r gitâr octif yn uwch na be’r oeddwn i wedi arfer, a doeddwn i ddim yn medru cyrraedd y nodyn.

Roeddwn i eisiau rhedeg oddi ar y llwyfan. Arswydus.

Beth yw’r parti gorau i chi fod ynddo?

Parti Gaynor Morgan Rees yn 60 oed ym Mhortmeirion. Gwledd, tân gwyllt, dawnsio, Caryl a’r Band, Côr Meibion, telyn, diwrnod poeth o Haf a’r gwmnïaeth wrth gwrs – lot o bobol o’n busnes ni.

Pa fath o gerddoriaeth sydd at eich dant?

Blues – Ella Fitzgerald, Billie Holiday a Muddy Waters; a Chlasurol – Mozart, Rachmaninov ac operâu Puccini a Verdi.

Pwy yw’r cyfeillion gorau i chi eu gwneud tra’n ymwneud â’r byd actio?

Olwen Rees, Lisabeth Miles, y diweddar Dilys Price a phawb sy’n aelodau o Theatr Penia.

Beth nesa’ i griw Theatr Pena, y cwmni sy’n canolbwyntio ar greu gwaith actio i ferched yn bennaf?

Yn y Gwanwyn mi fyddan ni’n teithio addasiad Siôn Eirian o Siwan Saunders Lewis, y teitl ydy The Royal Bed.

Beth yw eich hoff ddiod feddwol?

Gwin coch Malbec o’r Ariannin.

Beth yw eich hoff air?

Cariad.

Lle fyddwch chi’n cael eich Cinio Dolig?

Dw i’n meddwl bydda i efo fy merch a’i theulu a’r hogyn bach yng nghyffiniau Caerdydd.