Mae Eleri Jones yn cael hwyl garw ar drwsio hen bethau ac yn mwynhau DIY fel ffordd o ymlacio…

Mae adnewyddu dodrefn wedi dod yn fwyfwy poblogaidd yn ddiweddar, ac mae athrawes o Geredigion wedi denu bron i 10,000 o ddilynwyr wrth rannu ei gwaith.

Anwybyddu’r ffasiwn ddiweddaraf a chreu darnau fydd yn gweddu unrhyw gyfnod ydy nod pennaf Eleri Jones, wrth iddi uwchgylchu dodrefn o’i chartref yn Ffostrasol.