Dechreuodd yr actor o Gaernarfon ei yrfa yn chwarae rhan ‘Dyfan’ ar Rownd a Rownd, ac mae ganddo radd dosbarth cyntaf mewn Actio o Goleg Rose Bruford yn Llundain.

Ar hyn o bryd mae’n paratoi i bortreadu bachgen o’r enw ‘Pijin’ yn y ddrama lwyfan Pijin a fydd i’w gweld ddydd Llun nesaf yn Pontio, Bangor, cyn symud i Theatr y Sherman yng Nghaerdydd ym mis Mawrth…