Mae cogydd o’r gogledd wedi agor bwyty ar ei newydd wedd draw yn y brifddinas, ac mae’r holl staff yn medru siarad Iaith y Nefoedd…

Creu cartref i’r iaith Gymraeg ym Mhontcanna ydy gobaith perchennog newydd delicatessen poblogaidd yn y brifddinas.

Mae cogydd ifanc o Lanuwchllyn ger y Bala yng Ngwynedd wedi bod yn gweithio yn CannaDeli ers bron i saith mlynedd, a newydd ailagor y busnes ar ei newydd wedd.