Fe fydd sioe gerdd ddwyieithog am hanes menywod ffatrïoedd y de ar daith yn fuan…
Mae rhai o berfformwyr ac actorion benywaidd hŷn gorau Cymru yn perfformio yn y sioe gerdd Tic Toc, fydd ar daith drwy Gymru yn fuan.
Sioe yw hi am fywydau rhai o ferched ffatrïoedd y de yng nghanol y ganrif ddiwethaf gan gwmni Catrin Edwards, Parama2. Y cyfarwyddwr ac awdur y sgript yw Valmai Jones, ac yn y cast mae Gillian Elisa, Olwen Rees, Carys Gwilym, Lowri-Ann Richards, Clare Hingott, a Mary-Anne Roberts.
Yn y sioe, mae menywod yn trefnu aduniad ac yn mynd ati i hel atgofion am eu cyfnod yn y ffatri – rhai ohonyn nhw’n atgofion cythryblus am streicio a gwrthdaro, ac eraill yn rhai hapus, am gyfeillgarwch a hwyl.
Mae’r sgript yn seiliedig ar gyfweliadau a gafodd Catrin Edwards, Cyfansoddwr a Chyfarwyddwr Cerdd y cynhyrchiad. Yn y gorffennol mae hi wedi cynhyrchu nifer o raglenni dogfen hanesyddol i deledu gyda menywod ffatrïoedd y de. Fe wnaeth y cyfweliadau yn 2012 yn rhan o broject ‘Lleisiau o Lawr y Ffatri’ ar ran yr awdur Catrin Stevens ac Archif Menywod Cymru. Mae rhai o’r hanesion wedi eu cynnwys yn llyfr Catrin Stevens o 2019, Hanes Menywod Cymru 1920 – 1960.
“Pan ddaeth Catrin [Stevens] at ddiwedd [cyfnod] y rhyfel, doedd dim byd o gwbl am waith menywod. Roedd hi’n ymwybodol bod menywod wedi bod yn gweithio mewn ffatrïoedd ond doedd dim ymchwil wedi ei wneud,” meddai Catrin Edwards wrth Golwg.
“Mae llyfrgelloedd wedi cael eu sgrifennu am y glowyr, y chwarelwyr, a’r dynion yn y diwydiant dur, ond doedd dim byd am fenywod yn gweithio mewn ffatrïoedd. Mae hi’n elfen hynod o bwysig, nid jyst o ran economi a gwaith yng Nghymru, ond hefyd yr annibyniaeth a roddodd e i fenywod dosbarth gweithiol.
“Yn sydyn reit, roedd ganddyn nhw jobs gyda thâl iawn, ac roedd yn creu ryw annibyniaeth iddyn nhw. Roedden nhw’n gallu prynu eu tai eu hunain, efallai heb briodi. Wedyn mae’n rhan o hanes ffeministiaeth, er y byddai nifer o’r menywod yna ddim wedi eu galw eu hunain yn ffeministiaid, dw i’n siŵr.”
Tick Tock oedd yr enw ar lafar ar y ffatri oriawr ‘Anglo Celtic Watches’ yn Ystradgynlais, ond nid dyma pam eu bod nhw wedi rhoi’r enw Tic Toc ar y sioe. “Mae’r ffatri yn un cyffredinol,” meddai Catrin Edwards. “Maen nhw i gyd yn gweithio yn y rag trade, does dim enw i’r ffatri. Mae e’n unrhyw ffatri.
“Y rheswm wnaethon ni ei galw hi’n Tic Toc yw ei bod hi’n sioe ddwyieithog ac ro’n ni eisie rhywbeth fyddai’n gweithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae ‘tic toc’ y teitl yn cyfeirio at gloco mewn – cloco mewn yn y bore a chloco mas yn y prynhawn.”
Straeon y merched
Mae’r sgript, sydd wedi ei sgrifennu gan Valmai Jones, yn seiliedig ar y straeon a glywodd Catrin Edwards gan rai o ferched y ffatrïoedd.
“Mae elfen o wirionedd reit drwy’r ddrama, ac mae Valmai wedi plethu’r straeon at ei gilydd – straeon nifer o bobol wahanol,” meddai’r cynhyrchydd. “Ac wedyn mi wnes i sgrifennu’r caneuon.”
Daeth un hanesyn gan gyn-weithiwr ffatri Hoover ym Mhentrebach ger Merthyr, a gofiodd rai o ferched y ffatri yn mynd at y shop stewards i gwyno nad oedden nhw’n cael yr un cyflog â’r dynion. Fe gawson nhw eu dymuniad gan y bosys, gan fod y Ddeddf Cyflog Cyfartal newydd ddod i rym.
Ond mi barodd hyn i’r dynion gwyno, a mynd ar streic, gan achosi rhwyg dwfn rhwng merched a dynion y ffatri – rhwng gwragedd a gwŷr, brodyr a chwiorydd, merched a thadau, yn ôl Catrin Edwards. “Roedd menywod lan yn ei herbyn hi,” meddai. “Nid jyst gyda’r bosys, ond gyda’r dynion oedd yn gweithio gyda nhw weithiau.”
Ymhlith y profiadau eraill sydd wedi eu gweu i’r sioe lwyfan yw rhai Marge Evans o Aberdâr, a oedd yn arfer gweithio yn ffatri Sobell’s TV and Radio ar fynydd y Rhigos. Dangosodd i Catrin Edwards luniau criw o wyth ohonyn nhw sy’n dal i gyfarfod â’i gilydd, byth oddi ar i’r ffatri gau.
“O fan’na mae’r syniad o aduniad wedi dod, a’r syniad o gang o fenywod yma yn dod at ei gilydd,” meddai’r cynhyrchydd. “Dim ond ryw 14, 15 oed oedden nhw’n dechrau ar y gwaith yma. Mae’n anodd credu.”
Un peth pwysig am sioe Tic Toc yw bod menywod y cast i gyd dros eu hanner cant oed, neu’n agos ati, yn ôl Catrin Edwards. “Fel mae actorion yn mynd yn hŷn, yn enwedig ar lwyfannau Cymru, maen nhw’n dueddol o gael rhannau fel y nain neu’r fam-gu – cymeriadau sy’ ddim yn brif gymeriadau,” meddai.
“Yn aml iawn mae menywod yn chwarae’n hŷn na’u hoedran, yn aml heb enw. Ein bwriad oedd rhoi criw o fenywod ar ganol y llwyfan, ac mae’r stori i gyd amdanyn nhw.”
Hiraeth yng nghanol y peiriannau
Mae Olwen Rees yn actio cymeriad o’r enw ‘Appelonia Hughes’ yn Tic Toc. Fe fuodd y sioe ar daith fer i theatrau’r de cyn i Covid daro.
“2019 oedd yr un ola’ wnaethon ni,” meddai Olwen Rees. “Rydan ni wedi dod yn newydd ati hi rŵan.”
“Mae hi’n stori gerddorol, ddwyieithog am grŵp o ferched sydd wedi bod yn gweithio yn y ffatri… Mae yna aduniad newydd, a fi ydi’r hynaf ohonyn nhw i gyd. Dw i’n mynd yn ôl i pan oeddwn i’n blentyn, ac mae hynna’n rhoi ychydig bach o stori hanesyddol.
“Wedyn, rydan ni’n symud yn ôl ac ymlaen o’r aduniad, y paratoi tuag ato… ac wedyn, yn sydyn reit, rydan ni’n cofio rhywbeth, yn mynd yn ôl i’r amser pan oedden ni yn y ffatri, yn gwisgo overall, ac mae pawb yn gwybod ein bod ni yng nghyfnod y ffatri.”
Mae’r sioe yn dangos y cyfeillgarwch a oedd wedi blodeuo rhwng merched y ffatri, yn ôl Olwen Rees. “Er bod bywyd yn anodd, a dw i’n siŵr o fod ei fod wedi bod yn anodd iddyn nhw, maen nhw’n cael hwyl,” meddai. “Roedden nhw’n cyfarfod bob nos Wener, yn mynd allan, yn mwynhau, a mynd i ddawnsio. Mae yna lot o symud ynddo fe hefyd.”
Cân werin o fath yw un ‘Appelonia Hughes’ yn y sioe – roedd mam y cymeriad yn hoff o chwedlau Groegaidd.
Yn y gân, mae’r cymeriad yn cofio am ei mam, ac fel y byddai’n adrodd enwau’r caeau a fyddai wedi bodoli cyn y ffatrïoedd.
“Mae yna nostaljia yna, ac mae o’n hyfryd,” meddai Olwen Rees. “Mae yna lawer iawn o hwyl, ac rydach chi’n gweld y ffordd mae’r merched yn ymddwyn efo’i gilydd. Mae hi’n sioe hapus.
“Rydach chi’n drist weithiau, ac yn poeni am bethe, ond, yn y diwedd, mae popeth yn troi allan yn iawn, ac rydan ni’n cael hwyl fawr ar noson yr aduniad.”
Un o Gaernarfon yw Olwen Rees yn wreiddiol, a’i mam oedd Sassie Rees, un o ddiddanwyr enwocaf y cyfnod cynnar o deledu a radio Cymraeg. Mae hi wedi actio mewn llu o ddramâu hanesyddol ar S4C fel Y Stafell Ddirgel, Gwen Tomos ac Y Wisg Sidan ac ar gyfresi Saesneg megis Doctors, My Family a Stella. Yn ddiweddar roedd hi’n actio dihiryn ar 35 Diwrnod, wrth ochr Gillian Elisa, sydd hefyd yn Tic Toc. Fe fydd yn perfformio mewn sioe am fywyd yr actor Frankie Vaughan mewn gŵyl yn Ninas Powys ar Fai 9 eleni, gyda’i gŵr Johnny Tudor.
Yr un a dorrodd y streic
Enw cymeriad Lowri-Ann Richards yn Tic Toc yw ‘Mavis Parry’, un reit swil sy’n gwrthod cefnogi’r merched eraill sy’n penderfynu mynd ar streic dros dâl cyfartal.
“Mae hi’n gymeriad diddorol,” meddai’r actor wrth Golwg, dros y ffôn o ganolfan Chapter, Caerdydd lle maen nhw’n ymarfer. “Mae hi’n ffrind gorau i Ann, sy’n cael ei chwarae gan Gillian Elisa.”
Mae ‘Ann’ yn sefyll fel shop steward i geisio mynnu cael cyflog teg i’r merched, gan nad oedden nhw’n cael yr un tâl â’r dynion. “Roedd o’n rhywbeth newydd i’r genod sefyll i fyny a gofyn am fwy o arian,” meddai Lowri-Ann Richards. “Ar y pryd, dechrau’r 1970au, doedd yna ddim lot o hynna wedi digwydd, ac roedd lot o ofn am golli swydd. Ond mae fy nghymeriad i yn nadu dod allan ar streic. Ac mi ddaru hyn ddigwydd… ac maen nhw’n stopio siarad efo hi.”
Roedd hyn yn stori wir, mae’n debyg – mae’r criw yn hel at ei gilydd i annog ‘Ann’ i droi ei chefn ar ‘Mavis’, am nad oedd hi’n barod i gefnogi’r streic. Ar ôl perfformio’r sioe o’r blaen, fe ddaeth rhai o’r merched sydd wedi sbarduno’r straeon at yr actorion i’w llongyfarch.
“Yn y sioe mae Ann a Mavis yn cael broetsys am wasanaeth da ond do’n nhw ddim yn eu hoffi,” meddai Lowri-Ann Richards. “Felly ddaru nhw dorri nhw lawr ym Mhorthcawl neu rywle, a gwneud dwy fodrwy allan ohonyn nhw. Mae hynny’n wir. Roedd y ddynes yma wedi rhannu’r stori yma ac wedi dod i fyny aton ni, a’n hygio ni.
“Ro’n nhw ychydig yn swil i ddechrau, ond ro’n nhw blown away. Taswn i’n rhywun yn gweld fy hanes i yn cael ei ail-actio ar lwyfan… mae o’n rymus. Roedd yna deimlad cynnes ofnadwy.”
Fe fu’r actores mewn grŵp ‘New Romantics’ o’r enw Shock yn niwedd y 1970au, ac mae hi’n perfformio cabaret o dan yr enw LaLa Shockette. Er mai cymeriad eithaf swil yw ‘Mavis’, mae hi’n rhan dda i’w chwarae.
“Y peth pwysicaf ydi ei bod hi’n sioe i chwech o genod of a certain age,” meddai Lowri-Ann Richards. “A dydi hynna ddim yn cael ei wneud yng Nghymru na nunlle. Rydan ni ar y llwyfan – we’re singing, dancing, acting… Mae yna 10 o ganeuon up-beat ac yn hwyl. Ond mae’r ffaith mai genod ydan ni gyd… Mae band byw, mae o’n ffantastig. Rydan ni’n ei fwynhau o.
“Mae o’n berthnasol iawn, ac yn sioe up-beat, yn siarad am genod. Mae’n grêt.”
- Mae Tic Toc yn agor yn y Chapter, Caerdydd nos Iau nesaf, 23 Chwefror ac yn mynd ar daith tan 25 Mawrth