Ychydig eiriau o ddwy o wledydd eraill yr ‘Undeb’, lle mae’r Brexit gwreiddiol yn arwain at bwysau am Frexit newydd… gadael y Deyrnas Unedig. Dyma pam, yn ôl Mike Small ar un wefan Albanaidd…
“Felly dair blynedd yn ddiweddarach, r’yn ni ynghlwm wrth y difrod economaidd a diwylliannol sydd wedi ei achosi gan greisis hunaniaeth Lloegr, neu beth bynnag oedd o, a byddwn yn parhau i fedi’r canlyniadau trychinebus am flynyddoedd. Mae Brexit ar lun Egregore (math o ‘duedd seicig yn codi o feddwl torfol grŵp penodol o bobol’) am fod gyda ni’n hir, neu’r goblygiadau o leia’… R’yn ni’n byw trwy newid anferth na wnaethon ni bleidleisio drosdo ac na allwn ni wneud dim y ei gylch. Mae yna gonsensws eang ei fod yn syniad dychrynllyd ond mae’n wleidyddol annerbyniol i wneud dim yn ei gylch.” (bellacaledonia.org.uk)
O ganlyniad, meddai Kevin Meagher ar yr un wefan, fe fydd y tensiynau’n arwain at Iwerddon unedig…
“Go brin y bydd gan lywodraeth sy’n ymdrybaeddu mewn ymrafael blinderus post-Brexit gyda’r Undeb Ewropeaidd, ac yn ceisio atal galwadau am annibyniaeth i’r Alban, yr adnoddau a’r ynni i wrthsefyll uno Iwerddon. Gallai fod yn amhosib i San Steffan ddiffodd effaith gynyddol y ddau dân cyfansoddiadol sy’n llosgi o fewn y wladwriaeth Brydeinig, gyda Brexit fel paraffin wedi ei dywallt tros bren sych… Felly, dyma sut y daw Gogleddd Iwerddon i ben. Nid trwy rethreg ddyrchafol, nac ymdrech arfog, ond trwy gamgymeriadau gwirion Brexitwyr a’r ddadl tros ddewis arall gwell ac ymarferol.”
Yng Ngogledd Iwerddon ei hun, mae’r ddadl tros drefniant Brexitaidd y protocol yn creu problemau mawr i’r Protestaniaid unolaethol…
“Mae gwleidyddion unolaethol radical wedi casglu y tu cefn i’r Protocol fel ffanatigiaid crefyddol yn cadw at gredo. Mae’n enghraifft glasurol o ‘Dw i’n gwybod pwy ydw i achos dydw i ddim fel ti’. Dyma sut yr ydyn ni’n dal i ddiffinio hunaniaeth yma yng Ngogledd Iwerddon. Dyna ein ffordd. Mae wedi gwneud bywyd yn hawdd i Sinn Fein. Jyst cadwch yn dawel. Peidiwch â thorri ar draws eich gelynion pan fyddan nhw’n gwneud ffyliaid ohonyn nhw eu hunain. Mae gwleidyddion Gweriniaethol yn llawer clyfrach na’u cymheiriaid teyrngar. Mae fel cyfraith naturiol neu rywbeth, fel y bydd cathod wastad yn twyllo’r ci twp.” (Andrew Cunnign ar sluggerotoole.com)
Ac yn ôl ar wefannau’r Alban, ynghanol y tymor rygbi, y Sais Mark Perryman sy’n defnyddio chwaraeon i egluro peth o broblem Lloegr…
“Twickenham, pencadlys Yr Undeb Rygbi (RFU). Yn wahanol i bob undeb rygbi yn y byd, mae yna un gair ar goll, enw’r wlad lle mae’r gamp sy’n cael ei rheoli. Ac mae’r un peth gyda Wembley, pencadlys Y Gymdeithas Bêl-droed (FA); sylwch beth sydd ar goll. Y dybiaeth yw… mai yma yn Lloegr y mae unig ‘gartref’ y chwaraeon hyn ac anghofiwch am weddill y byd. Y canlyniad? Trwy’r broses gogio bach yma, rydym yn gwneud yn siŵr na allwn ni ddeall beth oedd Lloegr, beth yw hi, na’r hyn y gallai hi fod.” (bellacaledonia.org.uk)