Gyda Dydd Miwsig Cymru yn cael ei gynnal ar derfyn yr wythnos hon (Gwener, 10 Chwefror), hyfryd yw gweld bod gigs rif y gwlith wedi eu trefnu ar hyd a lled y wlad i ddathlu doniau lu’r Sîn Roc Gymraeg (SRG).

Ers degawdau bellach, mae’r enw ‘Sîn Roc Gymraeg’ yn drybeilig o gamarweiniol – yn ogystal â chanu roc Cymraeg, mae gennym ni bopeth o hip-hop i grime i ddyb-sdep a reggae a rap ac r’n’b, oll yn Iaith y Nefoedd.