Mae cyfarwyddwyr opera yn dotio at ddawn – a gwallt a gwedd Eidalaidd – tenor ifanc sy’n cael ei noddi gan Bryn Terfel…

Mae’r diolch am lwyddiant un o lanciau Hen Golwyn ym myd yr opera i’r bobol hynny a oedd yn ei hyfforddi a’i gymell yn ifanc.

Am ddwy flynedd o fis Medi ymlaen, fe fydd Ryan Vaughan Davies yn ymuno â rhaglen artistiaid ‘Jette Parker’ yn y Royal Opera House – y Cymro Cymraeg cyntaf erioed i gael lle arni.