Mae’r wal dalu wedi ei chwalu ar gyfer y Portread yma sydd yng nghylchgrawn Golwg, i bawb gael blas ar yr alrwy unig gylchgrawn wythnosol Cymraeg Cymru…
Hen hanesion arswydus am ysbrydion Cymru yw diddordeb mawr meddyg o’r gogledd sy’n byw yn y de.
Mae Dr Delyth Badder yn rhannu ei hamser rhwng astudio llên gwerin Cymru a’i gwaith yn batholegydd pediatrig i’r Gwasanaeth Iechyd.
“Roeddwn i wedi penderfynu’n ddeg oed fy mod i am fod yn batholegydd ar ôl gwylio ryw raglen ddogfen neu’i gilydd ar y teledu, a dydy’r penderfyniad yna erioed wedi gwyro,” eglura Delyth sy’n 35 oed.
“Dw i’n cofio’r golwg ar wyneb fy athrawes i yn yr ysgol pan wnes i ddweud wrthi’r bore wedyn fy mod i wedi penderfynu bod yn batholegydd!
“Es i i Ysgol Feddygaeth Caerdydd, a thra’r oeddwn i yno roeddwn i’n treulio bob gwyliau yn y marwdy yn Ysbyty Gwynedd yn edrych ar archwiliadau post mortems, ac yn edrych ar wahanol batholeg lawr y meicrosgop. Dim ond pan oeddwn i’n hyfforddi i fod yn batholegydd oedolion wnes i benderfynu arbenigo mewn patholeg plant, a dw i bellach yn arbenigo’n bennaf mewn patholeg tiwmorau plant.”
Yn wreiddiol o Lwynhudol ger Pwllheli, mae hi wrthi ym Mhontypridd gyda’i gŵr, yr awdur Elidir Jones, yn adnewyddu bwthyn sy’n rhan o dai crynion archdderwydd a llawfeddyg o’r bedwaredd-ganrif-ar-bymtheg.
Ochr yn ochr â’i gwaith meddygol, mae Delyth yn astudio am radd meistr ym Mhrifysgol Caerdydd ac wrthi’n cyd-sgrifennu llyfr ar hanesion ysbryd llai adnabyddus Cymru.
Fel sawl un, dechreuodd diddordeb Delyth mewn llên gwerin yn blentyn wrth glywed straeon gan ei rhieni. Ar hyn o bryd, mae hi wrthi’n edrych ar hanes ac ymddangosiad yr ysbryd o fewn y traddodiad Cymreig, a bydd ei llyfr hi gyda’r ymchwilydd llên gwerin Mark Norman, sy’n cynnal The Folklore Podcast ac yn guradur i’r Folklore Library and Archive yn Nyfnaint, yn cael ei gyhoeddi yn yr hydref.
“Bwriad y llyfr ydy medru cyflwyno rhai o hanesion ysbryd llai adnabyddus Cymru i gynulleidfa newydd, nifer llethol ohonyn nhw’n hanesion sy’n dod o destunau Cymraeg yn unig ac sydd erioed wedi cael eu cyfieithu nag eu hail-brintio, felly’n anffodus wedi disgyn yn angof.
“Dw i wedi bod yn casglu hen lyfrau prin sy’n ymwneud efo llên gwerin Cymreig a hanes a hynafiaeth Cymru ers sbel go hir bellach; mae gen i lyfrgell fach ddigon parchus. Mae nifer o’r hanesion am ysbrydion Cymru ar gyfer y llyfr wedi dod o fy nghasgliad personol.
“Mae o’n rhywbeth dw i’n teimlo’n angerddol ofnadwy yn ei gylch – mae yna ddiffyg cynrychiolaeth Gymreig o fewn astudiaethau llên gwerin yn gyffredinol. Dw i’n teimlo bod y naratif Cymreig bron yn ôl-ystyriaeth, mae ein llên ni’n aml yn cael ei gamddehongli neu ei gam-gyfieithu. Yn aml, mae’n cael ei gyfuno efo’r naratif Prydeinig cyffredinol. Y gobaith ydy gallu cyfrannu at newid y naratif, a dangos bod y traddodiad gwerin yng Nghymru’n datblygu a goroesi’n annibynnol, a’i fod o’n faes gwerth ei astudio ar ei gryfderau ei hun.”
Ydy Delyth, sy’n hoff o chwarae’r delyn a’r piano pan gaiff gyfle, yn coelio mewn ysbrydion?
“Mae yna ryw brofiadau wedi bod dros y blynyddoedd, ond gwyddonydd ydw i yn y bôn, felly dw i wastad yn trio edrych ar bethau o ochr wyddonol yn hytrach nag o’r ochr ofergoelus, mae’n siŵr.
“Mi fydda i’n hoff ofnadwy o stori ysbryd, ac yn sicr mae gen i’n hoff hanes ysbryd Cymreig. Mae honno’n dod o fy hoff lyfr gwerin i sef Ystên Sioned: Neu Y Gronfa Gymmysg, gafodd ei gyhoeddi ym 1882. Mae yna hanes go dywyll yn y llyfr yna o’r enw ‘Hir Yw Aros Arawn’, sy’n rhoi hanes ysbryd yn aflonyddu ar ffermdy yn rhywle tua gwaelodion Ceredigion am flynyddoedd ac yn codi sŵn mawr yn un o’r stafelloedd gwely bob nos, ac yn udo ‘Hir yw’r dydd, a hir yw’r nos, a hir yw aros Arawn’.
“Un noson mae dieithryn yn dod i’r drws i ofyn am rywle i aros, ac er bod y teulu’n protestio, mae o’n cynnig cymryd yr ystafell wely mae’r ysbryd ynddi, cyn cyhoeddi cyn mynd i’w gwlâu mai ei enw fo ydy Arawn. Fel pob stori ysbryd dda, o’r noson yna ymlaen dydy’r ysbryd byth yn aflonyddu ar y ffermdy eto ac erbyn y bore mae’r dieithryn wedi diflannu.”
Llawfeddyg radical a digon anarferol oedd Dr William Price a oedd yn gyfrifol am adeiladu’r tŷ mae Delyth a’i gŵr yn ei adnewyddu ym Mhontypridd.
Bu ynghlwm â symudiad y neo-dderwyddon yn y bedwaredd-ganrif-ar-bymtheg, ac yn dadlau dros hawliau cyfartal, yr hawl i amlosgi cyrff, a manteision bod yn llysieuwr.
“Roedd y tir yma’n wreiddiol yn eiddo i stad Llanofer,” eglura Delyth wrth gyfeirio at safle ei chartref.
“Tua 1853, mi ddaru’r teulu Llanofer gytuno i rentu’r tir yn fan hyn i Dr William Price achos ar y pryd roedd o’n rhedeg syrjeri ar waelod y lôn, ac roedd yna gytundeb i adeiladu un tŷ ar y tir. Roedd gan Dr William Price syniadau dipyn mwy crand nag un tŷ, ac fe wnaeth o benderfynu bod o am gomisiynu amgueddfa werin Gymreig ar dop y bryn tu cefn i lle mae’n tŷ ni.”
Dechreuodd gloddio’r goedwig a’r graig er mwyn adeiladu porthdai fyddai’n arwain at yr amgueddfa, a’r porthdai hynny yw’r tai crynion lle mae bwthyn Delyth.
“Yn anffodus, mi ddaru’r teulu Llanofer glywed am y cynlluniau, ac… mi fuodd yna ffraeo mawr rhyngddyn nhw achos mai’r stad oedd yn berchen yr hawliau cloddio ar y tir. Ac mi oedd yna lo reit dda yma, heb sôn am y ffaith bod Price methu talu ceiniog am y gwaith wnaeth o gomisiynu. Yn y diwedd, mi ddaru fo heglu hi am Ffrainc ar ôl iddo gael ei droi allan.”
Mae olion y gwaith cloddio i’w gweld ar ddwy erw o goedwig tu ôl i gartref Delyth, yn ogystal â’r hyn mae pobol leol yn ei alw’n ‘allor Dr William Price’.
“Mae’n fraint medru bod yn rhan o’r hanes yna. Rydyn ni wrthi’n trio adnewyddu’r bwthyn a’r goedwig, fwy fel sut fysa fo wedi bod erstalwm. Mae o wedi cael ryw fymryn o 70s makeover ar ryw bwynt.
“Dw i hefyd yn ymddiddori yn hanes y symudiad neo-dderwyddiaeth ym Mhontypridd yn y bedwaredd-ganrif-ar-bymtheg. Mae hanes Dr William Price yn rhan go fawr o hwnnw. Mae’r tŷ bellach yn llawn hen geriach gwreiddiol o’i hanes o dw i wedi bod yn casglu ers i ni symud yma, bron na fysa ni’n gallu agor amgueddfa ein hunan!”