Mae Ynys Môn yn “mynd o un argyfwng i’r llall” ar hyn o bryd, yn ôl Llinos Medi, arweinydd y cyngor sir yno.

Daw hyn yn sgil y newyddion bod cannoedd o swyddi yn y fantol mewn ffatri sy’n prosesu cig ar yr ynys, ar ôl i gwmni 2 Sisters, sy’n cyflogi 730 o bobol yn Llangefni, gyhoeddi eu bwriad i gau’r safle.

Dim ond mis yn ôl fe rybuddiodd Prif Weithredwr 2 Sisters fod y cwmni yn wynebu “bygythiad i’w fodolaeth” yn sgil costau anferth oedd yn taro’r busnes.