Wel dyma ni, ar derfyn mis Ionawr, fwy neu lai.

Ac er bod trafod y tywydd y boringaf o’r sgyrsiau boring… bu’r hinsawdd yn wlyb, yn llwm ac yn oer.

Wrth edrych yn ôl, mae ail ddydd Mawrth y flwyddyn newydd yn sefyll allan fel y diwrnod tywyllaf i mi gofio – wnaeth hi ddim trafferthu goleuo, a mwrllwch go-iawn yn ddigon i godi’r felan.

Dyna duvet day perffaith. Hynny yw, diwrnod da i aros mewn gwely clyd ac anghofio am y byd.