Er fy mod i’n anffyddiwr fy hunan, Duw a’n gwaredo rhag y math o seciwlariaeth a dderbyniodd glod gan Huw Onllwyn yn ei lith ‘Pechodau Crefydd’ [Golwg 12/1/23], lle traddoda’r un dôn unochrog a geir drosodd a thro gan Hitchens, Dawkins ac eraill. “Boring! Boring!”

Yn fwy bisâr oedd syniad rhyfedd Huw Onllwyn y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau fod astudiaeth o un o lyfrau’r polemydd Christopher Hitchens fod yn orfodol ym mhob un o ysgolion uwchradd y wlad.