Cafwyd Parêd Santes Dwynwen ar hyd strydoedd Aberystwyth am y tro cyntaf erioed y penwythnos diwethaf, i ddathlu diwrnod y cariadon yng Nghymru a oedd ar ddydd Mercher yr wythnos hon.

Bu torf dda yn cyd-gerdded i rythmau brwdfrydig band Samba Agogo, a’r gorymdeithio yn gyfle i egluro mwy am Santes Dwynwen i rai oedd yn digwydd pasio.

Aeth y cerddwyr yn eu blaenau i gynnal twmpath dawns yn Amgueddfa Ceredigion y dref.