Mae gan ysgolion Cymru gwricwlwm newydd sy’n golygu bod dysgu hanes y wlad bellach yn orfodol.

Ond un sy’n poeni am y modd y bydd y gwersi hyn yn cael eu cynnal, a’r hyfforddiant a’r adnoddau sydd ar gael i athrawon, yw Dr Huw Griffiths.

Bu yn athro Hanes yn yr ystafell ddosbarth am dros ugain mlynedd cyn treulio cyfnod yn Ymgynghorydd Addysg i siroedd De Orllewin Cymru ar y Cwricwlwm i Gymru.