Mae merch o Wcráin draw yn Abertawe i ddysgu popeth am un o arwyr mwyaf ein byd llên, ond mae’r rhyfela yn ei mamwlad yn gysgod parhaus…

Dnipro. Dinas fodern hardd ar ochr ddwyreiniol Wcráin, bron i 250 milltir i’r de ddwyrain o brifddinas y wlad, Kyiv.

Dyma le y magwyd Elizabeth Kondrashov, sydd nawr yn astudio gwaith Dylan Thomas yn y Ganolfan Ymchwil i Lên ac Iaith Saesneg Cymru ym Mhrifysgol Abertawe.