Tybed a ydi rhagluniaeth, neu ffawd, neu beth bynnag sy’n llywio’r bydysawd ar fin chwarae jôc ddychrynllyd o greulon ar ddynoliaeth?
Yr wythnos ddiwetha’, mi ddaeth y newyddion fod gwyddonwyr – o’r diwedd – wedi cael llwyddiant ymarferol efo asio niwclear ac wedi llwyddo i gynhyrchu mwy o ynni o’r broses nag a aeth i mewn.
Ar hyd fy oes i – a rhai hŷn na fi – mae’r ddelfryd o asio wedi bod ar y gorwel… y syniad y gallwch chi greu grym, nid trwy chwalu atom ond uno atomau, a gwneud hynny heb beryglon amlwg hollti niwclear.
Mae’n siŵr y bydd hi’n cymryd blynyddoedd maith eto cyn y bydd y llwyddiant newydd yn troi’n atomfeydd glân a diogel, gan helpu i ddatrys argyfwng ynni’r byd. A’r blynyddoedd maith ydi’r broblem.
Erbyn y daw asio niwclear yn rhan o’n bywydau ni, mae yna beryg y bydd newid hinsawdd wedi mynd yn rhy bell i’w ddadwneud, y bydd y fantol ecolegol wedi troi am byth… yn erbyn dynolryw o leia’.
Mae yna hyd yn oed beryg y bydd y syniad o asio niwclear yn gwneud pethau’n waeth; mi fydd yn cadarnhau barn llawer o bobol fod yna ffyrdd technolegol i ddatrys yr argyfwng ac yn eu gwneud yn fwy esgeulus fyth.
Mae yna beryg hefyd ein bod yn canolbwyntio’n llwyr ar rai elfennau o newid hinsawdd heb sylweddoli bod y broblem go-iawn yn ymwneud â’n defnydd ni o adnoddau’r ddaear ac effaith hynny ar y blaned a’r rhywogaethau eraill sy’n byw arni.
Roedd yna lawer llai o sylw i gynhadledd Cop 15 y mis yma (yn ymwneud â bioamrywiaeth) nag i gynhadledd Cop27 y mis diwetha’ (yn ymwneud â newid hinsawdd), er fod y ddwy’n trafod yr un argyfwng sylfaenol.
Mi gafwyd rhyw fath o gytundeb ynghylch bioamrywiaeth – y bydd 30% o’r ddaear mewn ardaloedd gwarchod erbyn 2030 – ond y tebygrwydd ydi fod hwnnw’n ymwneud mwy â datganiadau na gweithredu ac nad yw ardaloedd gwarchod yn ddigon ynddyn nhw eu hunain.
Mae rhannau helaeth o Gymru eisoes wedi eu gwarchod ond parhau i brinhau y maen ein creaduriaid a’n planhigion a dim ond 20% o’r holl ardaloedd gwarchod sydd mewn cyflwr boddhaol. Newid hinsawdd sy’n gyfrifol am beth o’r broblem ond nid y cyfan o bell, bell ffordd.
Efallai y gall asio niwclear ryw dro arwain at ffynonellau ynni cwbl wyrdd ond fydd hynny ddim yn atal dirywiad cyffredinol y blaned; yn hytrach, mi all ychwanegu at hynny trwy ein hannog i ddefnyddio hyd yn oed mwy o adnoddau naturiol yn ein ras ddi-droi’n ôl at ‘gynnydd’ a mwy o ‘gynnydd’.
Mi fydd angen defnyddio adnoddau naturiol i adeiladu atomfeydd asio, wrth gwrs. Y jôc chwerwa’ oll fyddai fod y gwaith adeiladu hwnnw yn gwthio’r ddaear tros y dibyn terfynol.