‘Cimwch ofal i brynu bwyd môr lleol y Dolig hwn’ – dyna’r neges gan griw Merched Mewn Pysgodfeydd Cymru (MMPC), sef menywod sydd eisiau tynnu sylw at eu gwaith yn y diwydiant pysgota.

“Rydym yn annog pobl i brynu bwyd môr o ffynonellau lleol a fydd yn cadw’r milltiroedd bwyd yn isel ac yn cefnogi’r economi leol,” meddai Carol Evans, aelod MMPC sy’n rhedeg busnes pysgota gyda’i gŵr.