Bu farw un o enwau mawr yr Urdd ac un o eiriolwyr pennaf y cyswllt diweddar rhwng Cymru a’r Wladfa Gymreig ym Mhatagonia, Elvey MacDonald, yn 81 oed.
Cafodd ei eni yn Nhrelew ym Mhatagonia yn 1941 a’i fagu yn y Gaiman, cyn symud i Gymru yn 1965 ar ôl gweithio am gyfnod byr mewn banc yn Nhrelew.
Bu’n Gyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd am 25 mlynedd rhwng 1964 a 1999 a “chyfrannodd ei arweiniad arloesol yn sylweddol i ganrif yr Urdd,” yn ôl y mudiad.