Fe fydd Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid 2022 yn cael eu cynnal yn Neuadd Brangwyn, Abertawe heno (1 Rhagfyr).

Mae’r gwobrau wedi cael eu cynnal ers 1994, er mwyn canmol projectau ac unigolion sy’n ‘gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau degau o filoedd o ieuenctid Cymru rhwng 11 a 25 oed’.