Y stori fawr o Fae Caerdydd yr wythnos hon yw bod yna fwy o helynt ym Mhlaid Cymru wrth i honiad o ymosodiad rhyw gael ei wneud yn erbyn uwch aelod o staff.

Daw hyn lai na mis ar ôl i Rhys ab Owen, Aelod o’r Senedd Canol De Cymru, gael ei wahardd gan Grŵp Plaid Cymru yn y Senedd o ganlyniad i achos difrifol honedig o dorri’r Côd Ymddygiad ar gyfer Aelodau o’r Senedd.

Ac mae yna hefyd honiadau bod yna ddiwylliant tocsig o fewn y Blaid.