Wrth i’r cyfryngau Unoliaethol ddathlu penderfyniad y Goruchaf Lys nad oes gan Lywodraeth yr Alban yr hawl i gynnal refferendwm annibyniaeth, mae lleisiau o bob cornel o wledydd Prydain yn awgrymu pwyll. Yn yr Alban, er enghraifft…

“Does yna ddim llwybr democrataidd at refferendwm, waeth pa fandad sy’n cael ei ennill dro ar ôl tro trwy’r blwch pleidleisio. Mae hynny’n beth peryglus o beryg i bobol glochdar yn ei gylch. Ymhellach, roedden nhw [y barnwyr] yn benodol iawn: does gyda chi ddim o’r hawl i hunan-lywodraeth. Ydych chi’n deall? Mae eich hawl chi i benderfynu ar eich dulliau llywodraethu yn y dyfodol yn dibynnu ar lywodraeth nad ydych wedi ei hethol (ac na allwch ei hethol chwaith)…” (Mike Small ar bellacaledonia.org.uk)

Yng Nghymru, gan Ben Wildsmith ar nation.cymru, fe ddaeth dadansoddiad o sefyllfa’r Alban…

“Yn nyddiau ola’ argyfyngus ymgyrch refferendwm yr Alban, gwnaeth llywodraeth y Deyrnas Unedig… 19 addewid i etholwyr yr Alban… ymhellach, dywedwyd wrth bobol yr Alban mai aros yn y Deyrnas Unedig oedd y ffordd sicra’ o gadw aelodaeth yr Alban o’r Undeb Ewropeaidd. Mae’r holl 19 addewid wedi eu torri… a dyw’r Alban ddim bellach yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd. Gydag unrhyw gytundeb arall, byddai’r fath ymddygiad yn arwain at dorri’r cytundeb a’r angen am dalu iawndal. Ond, gyda chytundebau, mae angen ystyriaeth o’r ddwy ochr a gwnaeth y Goruchaf Lys hi’n glir… nad oes elfen o gytundeb ynghylch perthynas yr Alban a’r Deyrnas Unedig. Yn hytrach, mae’r Alban wedi ei llyncu’n llwyr gan undeb sy’n datganoli grym fel ffafr, nid hawl.”

Rhybudd sydd gan John Dixon hefyd. Rhybudd ar i Lywodraeth Prydain beidio â diystyru bwriad yr SNP i droi’r etholiad nesa’ yn fath o refferendwm…

“Ydy’r unoliaethwyr o ddifri wedi ystyried yn iawn beth sy’n digwydd os… bydd 60% o’r etholwyr yn pleidleisio tros bleidiau sydd wedi datgan mai eu hunig bolisi ar gyfer yr etholiad hwnnw ydy annibyniaeth a bod pob AS o’r Alban yn perthyn i blaid sy’n cefnogi annibyniaeth?… y cyfan y mae penderfyniad y Goruchaf Lys wedi’i wneud ydy pwysleisio mai cwestiwn gwleidyddol ydy hwn yn ei hanfod ac y bydd yn cael ei benderfynu yn y pen draw gan bleidleiswyr yr Alban. Achos gwirion iawn yw dathlu’r dybiaeth bod modd cadw tiriogaeth a’i phobol mewn undeb am gyfnod amhenodol yn erbyn ewyllys glir y bobol hynny, dim ond am fod cyndeidiau’r brenin wedi datgan eu bod nhw’n llywodraethwyr absoliwt…” (borthlas.blogspot.com)

Ac, yng Ngogledd Iwerddon, maen nhw’n sylweddoli bod yr un peth yn wir, er gwaetha’r ddarpariaeth i gael refferenda yn y Gogledd a’r De ar gyfer uno’r ynys…

“Caniatâd San Steffan yw’r sbardun hanfodol yn y ddau achos. Ydy, mae yno mewn du a gwyn mai pâr o refferenda yw’r ffordd gyfreithlon allan, ond ychydig sy’n sylweddoli bod rhaid i San Steffan gytuno â hynny yn y lle cyntaf. Mae’r dyfarniad yn gwneud yn glir beth yw realiti datganoli o dan gyfansoddiad y Deyrnas Unedig, sydd fel arall heb ei sgrifennu…” (Mick Fealty ar sluggerotoole.com)