“Rydan ni’n ystyried ein hunain yn genedl sy’n haeddu cael ei chydnabod fel y mae Cymru a’r Alban”

Mae ffrae yn corddi lawr yng Nghernyw ynghylch cael Maer etholedig i gynrychioli’r ardal o Loegr sydd â chysylltiadau Celtaidd cryf a’i hiaith ei hun.

Cynulliad sydd ei angen ar Gernyw er mwyn cael y grym i fynd i’r afael â’r heriau y mae’n ei hwynebu, megis effaith negyddol Tai Haf, yn ôl rhai sy’n ymgyrchu tros annibyniaeth.