Cwestiwn mawr y cyfnod wrth gwrs ydi: pwy sydd yn ‘nabod Macsen? Neb, meddai Dafydd Iwan, cyn ei ganmol am fod yn sylfaenydd y genedl Gymraeg. Mae Dafydd Glyn Jones wedi trio rhoi cnawd ar yr esgyrn…
“… o leiaf byddai’n braf pe gallem ei nabod yn well, gwybod mwy o’r ffeithiau, a phrofi ai gwir ai peidio y syniad, y ddamcaniaeth neu’r honiad fod Macsen, cyn ymadael ar ei gyrch i’r Cyfandir, wedi gwneud trefniadau arbennig ar gyfer Gorllewin Prydain. A oedd y trefniadau hynny, a bwrw eu bod wedi digwydd, yn ddigon i wneud Macsen yn wir sylfaenydd cenedl y Cymry? Ni fynn y rhan fwyaf o’r haneswyr proffesiynol neu academaidd gredu hynny, nac yn wir ei ystyried ag unrhyw ddifrifwch… fe fynnai Wade-Evans [A.W. Wade-Evans, yr hanesydd], sef y cyntaf i honni dim o’r fath, iddo wneud y trefniadau hynny i gadw’r wlad yn Rhufeinig o ran gwareiddiad a diwylliant. Y dyn a ymorolodd bod y Cymry’n para’n ‘feibion Rhufain’, dyna oedd Macsen yn ôl W.-E …” (glynadda.wordpress.com)
Mae Macsen yn rhan o chwedloniaeth Cymru. Yn ôl Mike Small yn yr Alban, mae gan Loegr chwedloniaeth fwy diweddar, fwy perthnasol heddiw, yn nyddiau’r Mudo Mawr…
“Rhyfel ydi’r hyn y mae Lloegr yn dyheu amdano. Dyna pam ei bod yn dychmygu ‘goresgyniad’ ar ei harfordir deheuol a pham ei bod yn sbowtio negeseuon a chyfeiriadau am y Blitz a pham ei bod yn cyfeirio at y rhyfel yn Wcráin fel petai’n cymryd rhan. Mae llawer o wledydd yn mawrygu gorffennol dychmygol, ond mae Lloegr Brexit yn llawn o hunan-dosturi afresymol ac yn canolbwyntio ar gyfnod o fuddugoliaethau rhyfel. Wrth wneud hynny, mae’n cyfeirio (yn ddiddiwedd) at Churchill a Thatcher a dyna pam ei bod yn ymhyfrydu mewn sbloet o gofio a pham fod Heddlu’r Pabi o amgylch y penwythnos hwn.” (bellacaledonia.org.uk)
Ai myth ydi’r syniad y bydd gwleidyddion Llywodraeth Cymru’n mynd allan i Qatar a Chwpan y Byd i bregethu hawliau dynol. Yn ôl Theo Davies-Lewis ar nation.cymru, ddylen nhw ddim mynd…
“Os na fydd newid, fe fydd disgwyl dwys am [i Mark Drakeford] esbonio’n union sut y mae’n bwriadu ‘hyrwyddo cynhwysedd’ a ‘pharch at hawliau dynol’ ac wrth bwy. Mae’r pwnc wedi dod mor wleidyddol ac mor gyson yn yr agenda newyddion fel bod yna beryg y bydd yn gysgod llwyr tros ei ymweliad …”
Ac mae corff sy’n gefnogol i Lafur hefyd yn rhyw led gyhuddo’r Llywodraeth o safonau dwbl wrth drafod yr ymateb i gostau byw…
“Mae Llywodraeth Cymru wedi bod ymhlith y rhai sy’n annog Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gydnabod bod angen i fudd-daliadau godi’n unol â chostau byw… Ond ar gwestiwn rhoi cynnydd unol â chwyddiant yn y grantiau a’r lwfansau y mae’n gyfrifol amdanynt ei hun, mae wedi bod yn dawel hyd yn hyn… Gyda Llywodraeth Cymru ac eraill yn canolbwyntio ar Lywodraeth y DU a chodi budd-daliadau, rhaid iddi roi ei thŷ ei hunan mewn trefn hefyd.” (Victoria Winckler ar bevanfoundation.org)