Cafodd hurtrwydd y ffaith fod gennym Dywysog Cymru sy’n aelod o Deulu Brenhinol Lloegr ei amlygu’r wythnos hon.

Mewn seremoni digon rhyfedd, fe wnaeth William ymweld â charfan bêl-droed Lloegr er mwyn dosbarthu eu crysau Cwpan y Byd iddyn nhw.

Mae Lloegr, wrth gwrs, yn un o wrthwynebwyr Cymru yng Ngrŵp B Cwpan y Byd, a bydd y ddwy wlad yn herio ei gilydd ar 29 Tachwedd.

Yn ystod ei ymweliad, dywedodd ‘Tywysog Cymru’ wrth dîm pêl-droed Lloegr fod y “wlad i gyd y tu ôl i chi”.