Mae Golwg wedi dymchwel y wal dalu ar gyfer y golofn gwnsela sydd yn y cylchgrawn, i bawb gael budd ohoni…

Yr wythnos hon, yr awdur ac actor Rhian Cadwaladr o Rosgadfan ger Caernarfon sy’n rhoi cyngor am sut i ddelio gyda cholli swydd…

Annwyl Rhian,

Ryw fis yn ôl mi ges i fy niswyddo o’r job dwi wedi caru gwneud ers tua 11 mlynedd. Roedd y cwmni yn gorfod gwneud diswyddiadau gorfodol er mwyn arbed costau. Dw i erioed wedi bod yn ddi-waith o’r blaen – a hynny dros gyfnod o 27 mlynedd – a dw i’n teimlo cymaint o gywilydd dw i ddim wedi gallu dweud wrth y teulu. 

Ro’n i wedi gadael i’r swydd fy niffinio i dros y blynyddoedd diwetha’ a hebddi dw i’n teimlo ar goll. Mae fy ngŵr wedi bod yn gefnogol ond dw i ddim yn meddwl ei fod o’n gwerthfawrogi faint o ergyd ydy hyn i fi. Does gynnon ni ddim plant a does dim problemau ariannol ond mae wedi colbio fy hunanhyder i. Dw i ddim yn siŵr lle i ddechrau chwilio am swydd arall a beth i’w wneud nesaf…

CYNGOR RHIAN

Mae’n ddrwg gen i glywed eich bod wedi cael yr ergyd yma. Ergyd drom does dim dwywaith ac mi fedra i ddeall fod eich hunanhyder wedi cael clec, ond plîs peidiwch â chymryd hyn yn bersonol. Fe fues i’n gadeirydd llywodraethwyr ar fwrdd llywodraethol ysgol gynradd am rai blynyddoedd, ac un o’r gorchwylion anodda’ i mi orfod gwneud oedd diswyddo athrawes oherwydd i niferoedd yr ysgol fynd i lawr, a’r gyllideb yn cael ei lleihau o’r herwydd. Dewis ymarferol oedd pwy gafodd yr ymddiswyddiad a dw i’n siŵr mai dyna’r sefyllfa efo chi. Tydi colli eich swydd oherwydd toriadau yn ddim byd i deimlo cywilydd ohono ac yn yr amser sydd ohoni mae’n digwydd i amryw mewn amrywiol feysydd felly tydach chi ddim yr unig un sydd yn gorfod wynebu newid mawr yn eich bywyd.

Dw i’n amau eich bod wedi bod mewn sioc dros y mis diwethaf, a fedra i ddim gweld bai arnoch chi, ond tybed fedrwch chi edrych ar hyn fel cyfle newydd? Cyfle i ail-edrych ar eich bywyd a be ydach chi eisio allan ohono? Ac er eich bod chi wedi cael eich diffinio gan eich swydd ac wedi ei mwynhau, efallai fod yna drywydd arall y medrwch ei ystyried – tasa cael gwaith yn yr un maes yn anodd.

Tydach chi ddim yn dweud beth yw eich maes gwaith ond dw i’n siŵr fod ganddoch chi sgiliau fasa’n trosglwyddo i feysydd eraill, megis sgiliau cyfathrebu, gweithio mewn tîm, datrys problemau, technoleg gwybodaeth ac ati. Mae natur y byd gwaith wedi newid llawer dros y blynyddoedd diwethaf gydag amryw yn gweithio dan amodau cytundebau sero oriau a llai a llai yn mynd i mewn i yrfa gan ddisgwyl mai dyna fydd eu gwaith am oes. Mae’n beth cyffredin i gael yr hyn a elwir yn yrfa portffolio – hynny yw, gweithio mewn amrywiol feysydd sydd ddim bob tro yn gysylltiedig – dw i yn un enghraifft o hyn.  Gan fod eich sefyllfa ariannol yn golygu nad oes rhaid i chi ruthro i chwilio am waith tybed fyddai ail hyfforddi yn opsiwn? Yn sicr tydach chi ddim yn rhy hen! Dw i’n adnabod amryw sydd wedi newid gyrfa yn eu pedwardegau, pumdegau, hyd yn oed chwedegau. Yn fy mhedwardegau hwyr fe wnes i lefel A Celf mewn coleg addysg bellach, ynghanol y bobl ifanc, a mwynhau yn arw. Roedd un gŵr yn dilyn cwrs ffotograffiaeth oedd newydd gael ei ben-blwydd yn wythdeg oed!

Gwirfoddoli

Opsiwn arall i chi ystyried tra yn y cyfnod interim yma yw gwirfoddoli. Mae gymaint o alw am wirfoddolwyr mewn amrywiaeth o wahanol feysydd – banciau bwyd; amgueddfeydd; yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol; y Gwasanaeth Iechyd; siopa elusen. Chwiliwch ar y we ac fe welwch domen o gyfleoedd i wneud rhywbeth gwerth chweil fyddai’n arwain at dwf yn eich hunanhyder, eich synnwyr o hunan werth, eich sgiliau ac yn rhoi cyfle i chi wneud ffrindiau newydd yn ogystal. Yn fy ardal i yng Ngwynedd, Mantell Gwynedd yw’r mudiad sy’n cefnogi grwpiau gwirfoddol yn y gymuned ac o edrych ar eu gwefan mae degau o gyfleoedd i wirfoddoli.

Mae yna fudiadau hefyd fyddai yn medru eich helpu i chwilio am waith ac i ddygymod â cholli eich swydd, megis Cymru’n Gweithio. Ar eu gwefan nhw cewch arweiniad ar sut i dderbyn cyngor a chymorth ac fe fedrwch ddarllen straeon pobol o bob math sydd wedi bod mewn sefyllfa debyg i chi ac sydd nawr yn hapus mewn swyddi newydd.

Pan mae un drws yn cau mae un arall yn agor, meddan nhw – pwy a ŵyr pa gyfleoedd cyffrous sydd o’ch blaen? Peidiwch â bod ofn mentro drwy’r drws yna a pheidwich â bod ofn siarad am eich teimladau chwaith, esboniwch yn iawn wrth eich gŵr sut ydach chi wedi bod yn teimlo a da chi peidwich â theimlo fod yn rhaid celu pethau rhag eich teulu – gadewch iddyn nhw fod yn rhan o’r siwrna cyffrous nesa yn eich bywyd. Pob lwc!