Gyda Rob Page ar fin cyhoeddi carfan Cymru ar gyfer Cwpan y Byd, Gwilym Dwyfor sy’n ceisio proffwydo pwy fydd ar yr awyren i Qatar…

Bydd y cyhoeddiad yn digwydd heddiw (dydd Mercher, Tachwedd 9), yn addas iawn ym Mhendyrus. Yn addas gan y bydd y dewis wedi bod yn rhoi pen dyrys i Rob Page ers rhai misoedd bellach, a hefyd gan mai yn y pentref hwnnw yn y Rhondda y magwyd y rheolwr cenedlaethol.

Fe wna’ i weld eisiau’r pendroni. Mae’r trafod ar Twitter a’r negeseuon di ben draw ar WhatsApp am ffitrwydd Joe Allen neu ffaeleddau honedig Joe Morrell yn gymaint rhan o’r cyffro a’r paratoi â chasglu sticeri neu drefnu ffleits.

Ond y gwir amdani wrth gwrs yw nad yw Page yn gwyro gormod oddi wrth yr hyn mae’n ei adnabod. Mae’n dueddol o aros yn driw i’r hogia’ â’n cafodd ni yma yn y lle cyntaf… felly er cymaint o hwyl ydi sôn am gysylltiadau teuluol Paul Mullin, mae’n annhebygol y bydd blaenwr Wrecsam, na’i nain, wedi hyd yn oed croesi meddwl tîm hyfforddi Cymru.

Man da i gychwyn bob tro felly yw’r garfan ddiwethaf. Roedd 27 o chwaraewr yn rhan o’r camp hwnnw yn y diwedd, yn dilyn y diweddariadau carfan arferol. Ond, roedd pedwar pwysig iawn yn absennol hefyd, gydag anafiadau yn cadw Ben Davies, Joe Allen, Aaron Ramsey a Harry Wilson allan ym mis Medi.

Mae tri ohonynt yn aelodau o’n un ar ddeg cryfaf a’r llall ddim yn bell iawn y tu ôl iddynt, felly fe ddaw’r pedwar yma yn ôl i mewn os ydynt yn ffit. A’r os mwyaf ar hyn o bryd yw’r un sy’n loetran o gwmpas Allen. Nid yw Pirlo’r Preseli wedi chwarae ers iddo anafu llinyn y gâr ganol mis Medi, ond mae o mor bwysig i Gymru, fe wnaiff Page ei gynnwys os oes unrhyw siawns y gallai fod yn barod ar gyfer rhai o’r gemau. Pe bai chi’n dweud wrtha’i fod gan Joe 10% o gyfle i fod yn ffit erbyn y ffeinal, fe fyddwn i’n mynd â fo!

Os yw fy syms i’n iawn, golyga hynny fod Page angen chwynnu pum chwaraewr o’r garfan ddiwethaf. Mae anaf creulon i Rhys Norrington-Davies wedi gwneud un o’r penderfyniadau drosto. Roedd amddiffynnwr Sheffield United yn cael tymor gwych ac yn sicr o’i le ar yr awyren cyn iddo gael ei gario oddi ar y cae yn erbyn Coventry bythefnos yn ôl.

O ran y pedwar arall, rhaid edrych yn gyntaf ar y rhai na chafodd eu defnyddio o gwbl yn y ddwy gêm ddiwethaf yn erbyn Gwlad Belg a Gwlad Pwyl. Chris Gunter oedd un ond fe fydd o ar yr awyren, heb os. Mae carfan fach, ond swnllyd, o gefnogwyr Cymru sydd ddim yn hoffi hynny ond mae profiad yr amddiffynnwr a’i ddylanwad yn y garfan yn amhrisiadwy. Mae yna dueddiad o ddweud yr un peth am Jonny Williams ond rydw i’n gyndyn o gynnwys Joniesta yn yr un gwynt â Gunts. Fysa gen i ddim problem gweld Williams yn cael ei adael allan, ond dw i ddim yn gweld hynny’n digwydd.

Dau sydd yn fwy tebygol o aros adref yw’r bechgyn ifanc yn eu harddegau, Jordan James a Luke Harris. Cafodd y ddau flas cyntaf o garfan y tîm cyntaf chwe wythnos yn ôl ond go brin y bydd lle iddynt y tro hwn.

Gadawa hynny Wes Burns, Mark Harris a Rabbi Matondo a dim ond un sedd ar ôl ar yr awyren. Nid yw Matondo wedi gwneud digon mae arnaf ofn felly mae hi rhwng y ddau arall. Mae Harris yn chwarae’n gymharol reolaidd i Gaerdydd ac fe sgoriodd o gôl wych yn erbyn Blackburn ychydig wythnosau yn ôl. Ond dw i’n amau efallai y bydd hyblygrwydd Burns i chwarae mewn amrywiol safleoedd yn rhoi’r fantais iddo ef, yn enwedig oherwydd anaf Norrington-Davies.

Mae’n dibynnu os yw Page yn dewis ôl-asgellwr neu amddiffynnwr canol i gymryd lle Norrington-Davies mewn gwirionedd. Burns fyddai’r dewis naturiol fel ôl-asgellwr ond gall yr anaf agor cil y drws i rywun fel James Lawrence hefyd, amddiffynnwr canol troed chwith sydd yn chwarae’n rheolaidd i Nürnberg y tymor hwn.

Nid wyf wedi sôn o gwbl am y gôl-geidwaid eto ac mae’n debyg y bydd un newid bach yn y safle hwnnw hefyd. Tom King oedd y trydydd dewis y tu ôl i Wayne Hennessey a Danny Ward fis Medi, ond gydag Adam Davies yn holliach eto, rwyf yn disgwyl ei weld o’n dychwelyd. Ail ddewis yw Davies i Sheffield United ond cafodd rediad byr yn y tîm yn ddiweddar oherwydd gwaharddiad i’r dewis cyntaf, Wes Foderingham. Amseru da, diolch ’ti Wes!

A dyna ni felly, hawdd… Neu a fydd yna syrpréis bach? Fe awgrymodd Page yn ddiweddar ei fod yn cadw llygad ar ambell chwaraewr sydd yn chwarae’n dda yn y Bencampwriaeth. Gallai fod yn cyfeirio at Ryan Hedges ond nid oedd o yn nhîm Blackburn y penwythnos diwethaf oherwydd anaf. Mae blaenwr Millwall, Tom Bradshaw, wedi bod ymhlith y goliau’n ddiweddar hefyd ond er cymaint yr hoffwn i weld un o feibion Gwynedd yn y garfan, dw i ddim yn rhagweld hynny’n digwydd.

Mwy tebygol o lawer fyddai gweld chwaraewr Abertawe, Oli Cooper, yn sleifio i mewn i’r garfan, a hynny ar draul Tyler Roberts neu Rubin Colwill siŵr o fod. Un enw arall mae’n rhaid i daflu yn y pair yw David Brooks. Mae’n annhebygol wrth gwrs wedi cyfnod cyhyd allan ond peidiwch â synnu gweld Page yn rhoi pob cyfle i chwaraewr Bournemouth brofi ei ffitrwydd, gydag enw arall wrth gefn rhag ofn.

Carfan bosib Page

Wayne Hennessey, Danny Ward, Adam Davies

Chris Gunter, Chris Mepham, Joe Rodon, Ethan Ampadu, Ben Cabango, Ben Davies

Connor Roberts, Neco Williams, Sorba Thomas, Wes Burns

Joe Allen, Joe Morrell, Dylan Levitt, Matthew Smith

Harry Wilson, Aaron Ramsey, Oli Cooper, Jonny Williams

Dan James, Kieffer Moore, Gareth Bale, Brennan Johnson, Tyler Roberts