Mae artist gwladgarol o’r gogledd wedi dychwelyd i’r stiwdio ar ôl degawd, diolch i hwb gan Gymro yn yr Eidal ar Instagram…

 

‘Fin nos fan hyn

Lladdwyd Llywelyn.

Fyth nid anghofiaf hyn.’

 

Geiriau dirdynnol fel y rhai yma gan y bardd Gerallt Lloyd Owen sy’n tanio meddwl yr artist Teresa Jones wrth iddi greu ei darluniau.