Mae Golwg wedi codi’r wal dalu ar golofn Rhian Cadwaladr sydd yn y cylchgrawn, i bawb gael blas ar yr arlwy…

Yma mae’r awdur o Rosgadfan ger Caernarfon yn rhoi cyngor i wraig sy’n ystyried gadael ei gŵr er mwyn ceisio cynnal fflam ar hen aelwyd…

 

Annwyl Rhian,

Dwi yn fy mhumdegau hwyr ac wedi bod yn briod ers 31 mlynedd. Mae gynnon ni dri o blant sydd bellach wedi gadael y nyth. Yn ystod y clo mi wnaeth fy ngŵr a finna sylweddoli bod gynnon ni fawr ddim yn gyffredin ac rydan ni wedi bod fel dau ddieithryn sy’n digwydd rhannu tŷ. Tua blwyddyn yn ôl roedd hen gariad wedi cysylltu efo fi ar Facebook. Roeddan ni’n gweld ein gilydd am ryw ddwy flynedd yn y brifysgol ond ar ôl i ni raddio mi wnes i fynd i deithio i Awstralia am flwyddyn ac mi gafodd o job mewn banc yn Llundain. Wnaethon ni golli cysylltiad er ro’n i wedi clywed drwy ffrindiau ei fod o wedi priodi a chael plant. Mae o wedi cael ysgariad erbyn hyn. Ar ôl bod yn negesu ein gilydd am chwech mis wnaethon ni gwrdd am goffi ac roedd yr hen sbarc yn dal yno. Mae o wedi ei gwneud hi’n glir ei fod o eisiau mwy a dw i hefyd. Ond ydw i’n ffôl i feddwl bod genna’i ail gyfle am hapusrwydd yn fy oed i?

YR ATEB

Mae’n rhaid i mi gyfadda’, ar yr edrychiad cynta’, roedd yr ateb i’ch cwestiwn yn hawdd ac, i raddau, mae o achos tydach chi ddim yn ffôl yn meddwl fod ganddoch chi ail gyfle am hapusrwydd. Tydi oed ddim rhwystr i hapusrwydd, diolch i’r drefn, felly tydi hi fyth yn rhy hwyr. Mi fedra’i gydymdeimlo efo chi yn eich sefyllfa gan mod i wedi bod mewn sefyllfa debyg (er nad oedd y briodas yna wedi para cyhyd a’ch un chi o bell ffordd) ac wedi i mi eistedd a meddwl a chofio mae fy ateb yn mynd i fod yn dipyn mwy cymhleth.

Tydi penderfyniad anferth fel hyn ddim yn rhywbeth i chi ruthro iddo. Dw i’n siŵr eich bod chi wedi pendroni llawer eisoes, ond hoffwn awgrymu ychydig o bethau i chi ystyried. Rydach chi’n sôn eich bod chi a’ch gŵr wedi sylweddoli nad oes ganddoch chi fawr ddim yn gyffredin erbyn hyn, sydd yn awgrymu eich bod wedi sgwrsio am y peth. Ond pa mor ddwfn oedd y sgyrsiau yna? A wnaethoch chi drafod pam eich bod wedi pellhau gymaint? Ceisiwch gofio beth ddenoch chi at eich gilydd yn y lle cynta’ – ydi’r pethau yna wedi hen fynd erbyn hyn? Ynta’ dim ond wedi eu cloi mewn cwpwrdd yn rhywle maen nhw, a tasa chi mond yn chwilio mi fasa chi’n medru ffeindio’r allwedd eto?

Ydach chi wedi rhoi amser i’ch gilydd ers i’r plant hedfan y nyth i ail gysylltu, i ddod i adnabod pwy ydach chi heddiw ac nid pwy oeddach chi 31 o flynyddoedd yn ôl? Mewn geiriau eraill, ydach chi’n siŵr fod y fflam wir wedi ei ddiffodd achos, os chwalwch chi’r briodas, go brin fydd yna droi nôl wedyn.

Efallai eich bod chi wedi cael sgyrsiau dwfn a’ch bod chi’n gwybod yn sicr fod eich gŵr yn teimlo’r un fath â chi. Os felly, mae siawns y bydda fo’n falch o glywed eich bod yn gadael, rhag iddo fo orfod bod yr un i wneud y cam cynta’. Ond os na, yna mi allwch fod yn y sefyllfa o weld person fu unwaith yn golygu llawer i chi, ac sydd yn dad i’ch plant, yn chwalu o’ch blaen ac mae hynna yn brofiad tu hwnt o anodd a phoenus, felly cystal i chi baratoi eich hun.

Mae yna faterion ymarferol i’w ystyried hefyd, wrth gwrs – eich cartref, er enghraifft – pwy sydd yn symud allan? Fedrwch chi fforddio byw eich hun? Mi fyddai angen rhywle i chi fynd rhag i chi ruthro yn rhy fuan i fyw efo’ch cyn-gariad. Rhywbeth arall i’w ystyried hefyd ydi sut fysach chi’n ymdopi petai chi yn gorffen fyny ar ben eich hun, achos does dim garanti y bydd y berthynas efo’ch cyn-gariad yn gweithio. Gall sbarc droi yn dân cryf neu farw allan reit sydyn. Wedi dweud hyn, os fasa’r berthynas yna yn chwalu hefyd does dim i ddweud na fedrwch chi ffeindio gwir hapusrwydd eto – mi fedra’i dystio i hynny. Peidiwch â chymryd yn ganiataol y bydd eich gŵr yn derbyn y sefyllfa yn ddi-lol – yn enwedig os oes dyn arall yn y pictiwr – fe all pethau droi yn hyll. A beth fydd ymateb y plant a’r teulu a ffrindiau? Dw i ddim yn dweud fod y rhain i gyd yn rhesymau i chi beidio â mynd, dim ond fod yn rhaid arfogi eich hun yn emosiynol ac yn ymarferol.

Os ydach chi’n meddwl y basach chi’n hapusach eich hun nag efo’ch gŵr, a’ch bod wedi bod yn disgwyl esgus fel hyn i roi rheswm i chi adael, yna mae eich llwybr yn reit glir. Ceisiwch hefyd roi eich hun yn sefyllfa eich gŵr… beth fyddai orau ganddoch chi – fod eich gŵr yn chwalu’r briodas ac yn fuan wedyn yn cychwyn perthynas arall? Ynteu ei fod o’n dweud wrthoch chi ei fod yn eich gadael a’i fod wedi bod mewn perthynas arall ers misoedd? Gall yr elfen o dwyll greu mwy o siom a phoen felly mi faswn i’n awgrymu i chi wneud eich penderfyniad cyn cychwyn perthynas arall o ddifri.

Fedar neb wneud y dewis drosoch chi, chi wyddoch beth sydd yn eich calon. Fy nghalon sydd wedi rheoli fy mhen i bob amser. Un peth sy’n sicr, mae bywyd yn rhy fyr i ddifaru. Dim pawb sydd yn cael cyrraedd eu pumdegau, a bron bod hi’n ddyletswydd arnon ni felly i fyw ein bywyd gora’. Pob lwc a phob hapusrwydd i chi.