Gêm beryg ydy brolio Tori yn y Gymru Gymraeg… ond dyma feiddio rhoi cynnig arni!

Rhaid llongyfarch Michael Gove am arwain yr ymgyrch i roi stop ar gynllun Liz Truss a Kwasi Kwarteng i ostwng trethi’r cyfoethocaf.

Ar adeg pan mae yna greisus costau byw, roedd y Prif Weinidog newydd a’i Changhellor am ostwng trethiant ar y rhai yn ennill dros £150,000 o 45% i 40%.

A ddylai neb synnu fod Gove wedi bod mor llafar ei wrthwynebiad i hyn.