Mae awdur un o lyfrau pwysicaf Cymru yn cwestiynu pam nad oes mwy wedi digwydd dros y ddau ddegawd diwethaf i hybu lleisiau llenyddol pobol ddu a phobol o liw yng Nghymru.

Cyhoeddodd yr Athro Charlotte Williams ei llyfr hunangofiannol arloesol Sugar and Slate yn 2002 ac mi enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn yn 2003.

Mewn cydweithrediad gyda Planet Books, mae gwasg Parthian wedi cyhoeddi argraffiad newydd o’r llyfr, yn ei gyfres fawr Library of Wales.