Dydi’r blogfyd ddim wedi ymateb yn rhy ffafriol i gynlluniau ariannol Llywodraeth newydd Liz Truss. Ac mae yna ambell awgrym nad ydi Dic Mortimer yn frwd yn eu cylch nhw chwaith…

“Rhaid i ddemocratiaeth ildio i’r ‘farchnad’ ac i rym arian a rhaid dileu unrhyw rwystrau i’r broses o ymgyfoethogi – pethau fel trethi, ailddosbarthu, tegwch, trugaredd, cydwybod cymdeithasol, perchnogaeth gyhoeddus, rheoleiddio, safonau, undebau llafur a phrotestio gwleidyddol. All dim guro’r ddogma – nid tystiolaeth ddamniol o niwed, nac anghyfartaledd ffiaidd, nac amddifadedd miliynau o bobol na chwalfa’r byd naturiol. Rhaid defnyddio cyfreithiau newydd gormesol a phropaganda milain y biliwnyddion sy’n berchen ar y Wasg er mwyn sathru ar unrhyw symudiad oddi wrth yr athroniaeth wallgo yma.” (dicmortimer.com)

Amau cynllwyn y mae John Dixon – fod Liz Truss yn parhau i fod yn Ddemocrat Rhyddfrydol, fel yn ei dyddiau coleg, a’i bod wedi ei hanfon gan y blaid i ddinistrio’r Ceidwadwyr o’r tu mewn…

“Mae gallu Liz Truss i bendilio o gredu’n ddwys mewn un safle polisi i gredu’n ddwys yn y gwrthwyneb yn golygu ei bod yn Lib Dem clasurol… ar ôl treulio deuddeng mlynedd yn weinidog yn cefnogi polisïau tri Phrif Weinidog yn olynol, mae wedi dod yn amlwg nad oedd hi’n cytuno gyda dim yr oedden nhw (neu hi ei hunan) yn ei wneud neu’i ddweud… mae mynd o gefnogi’r syniad nad oes yna goeden arian hud i hawlio ei bod yn rheoli coedwig ledrithiol gyfan, heb hyd yn oed dynnu anadl, yn symudiad a fyddai wedi syfrdanu hyd yn oed yr ymgeiswyr Lib Dem mwya’ profiadol.” (borthlas.blogspot.com)

Yn y flogwlad, person arall sy’n mynd â’r sylw – Carlo, Ein Cyn Dywysog – a hynny oherwydd ei benderfyniad i symud mor gyflym i gyhoeddi enw Wili Walia, Ein Tywysog Newydd. I Theo Davies-Lewis, sydd wedi symud o longddrylliad thenational.wales, roedd ei araith i wneud hynny yn y Senedd yn argyhoeddi’n llwyr…

“Fe siaradodd yn Saesneg, ond yna troi at y Gymraeg. Roedd yn araith ddwyieithog drawiadol a theimladwy. Mewn ychydig funudau, cododd y Brenin atgofion o dywysogion brodorol hanesyddol a dathlu’r balchder sy’n gosod Cymru ar wahân. Does yr un brenin neu frenhines yn hanes modern Prydain wedi deall a pharchu’r wlad hon yn well… Bydd arwisgo Tywysog a Thywysoges Cymru yn cynnig deinameg ychwanegol. Dylai’r ddau fod wrth galon y seremoni, wrth gwrs, ond felly hefyd yr arweinwyr cymdeithas a oedd yn amlwg yn ystod ymweliad y Brenin – y Prif Weinidog, y Llywydd a’r Ysgrifennydd Gwladol – er mwyn dangos datblygiad democrataidd y wlad. Dylai’r Senedd ei chynnal.” (nation.cymru)

Y drws nesa’ ar yr un wefan, doedd Angharad Fychan ddim mor siŵr…

“Mae ceisio awgrymu [bod Charles] a William rywsut yn llinach Llywelyn, neu yn anrhydeddu’r cof am Lywelyn trwy barhau â’r teitl, yn enghraifft o ailsgrifennu hanes Cymru ac yn barhad ar yr ymgyrch i oresgyn a thawelu Cymru. Fel y dywedodd George Orwell yn 1984: ‘Y ffordd fwyaf effeithiol o ddinistrio pobol yw gwadu a dileu eu dealltwriaeth o’u hanes’.” (nation.cymru)