Roedd hi’n ddwy flynedd yn union ers fy ysgariad wythnos diwetha – a dw i wedi bod yn dathlu.

Pen-blwydd digwyddiad reit ddi-nod ydy o, a bod yn onest: marcio derbyn atodiad e-bost, pdf o sgan o ddarn o bapur a ddaeth yn dawel bach i’r mewnflwch, mewn seibiant byr rhwng cyfnodau clo. Yn sicr, bu llawer mwy o ddathlu a chacen pan grëwyd y contract, nag y daeth pan y’i diddymwyd. A dweud y gwir, dwi ddim yn siwr pa achlysur oedd y drytaf chwaith.