Roedd ymweliad y brenin newydd â Chymru (a’r Alban a Gogledd Iwerddon) yn awgrymu y bydd y frenhiniaeth yn arf pwysig yn yr ymgyrch i gadw’r Deyrnas Unedig yn un.

Mae’n amlwg fod Charles yn cael cyngor doeth ynglŷn â’i agweddau a thôn ei eiriau… a hyd yn oed eu hiaith (gan lwyddo i berswadio’r rhan fwya’ o newyddiadurwyr fod ynganu o sgript yn gyfystyr â ‘siarad Cymraeg’).