Gyda lwc, fe fydd geiriau cerddi Waldo Williams yn ‘hoyw yng ngenau dynion’ ar ddiwrnod cynta’ mis Hydref.

Mae criw o edmygwyr y bardd mawr o Sir Benfro yn gobeithio cyflawni her i ddarllen bron i 350 o’i gerddi yn rhan o’r ‘Waldothon’ i ddathlu Diwrnod Waldo eleni.