Mae un o siopau llyfrau Cymraeg hynaf Cymru yn dathlu ei phen-blwydd yn hanner cant oed.

Agorodd Siop y Pentan ei drysau yng Nghaerfyrddin ddechrau mis Tachwedd 1972, dan reolaeth Wyn Thomas. Yn 2009, ar ôl 37 mlynedd o wasanaeth, trosglwyddodd yr awenau i Andrew Davies, mab Nancy Davies a oedd wedi bod yn gweithio yn y siop am flynyddoedd maith. Mab Andrew, Brieg Dafydd, sydd bellach yn rhedeg y siop, ar ôl cymryd yr awenau ym mis Medi 2018.