Ddechrau’r wythnos, tra’r oedd arweinwyr y byd, gan gynnwys Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, yn Llundain ar gyfer angladd Elizabeth II, pasiodd pen-blwydd y bleidlais tros ddatganoli heb lawer o ffwdan.

Ar 18 Medi 1997, pleidleisiodd mwyafrif bychan o etholwyr ein gwlad yn gadarnhaol i’r cwestiwn: ‘Ydych chi’n cytuno y dylid cael Cynulliad i Gymru?’