Roedd rhaid troi i’r blogfyd i gael ambell farn wahanol am Ddigwyddiad Mwya’r Byd Erioed…
“Mae’r sylw newyddion hollbresennol parhaus – dydd ar ddydd o gleber moesymgrymol, sentimentaliaeth orfodol a galar manwl-drefnus – yn lledu dros y tonfeddi wrth i arch y frenhines, fel rhyw Deliveroo syber, ymlwybro ar draws y wlad. Yn achos y frenhiniaeth, symboliaeth yw grym – nid rhyw wlad tylwyth teg anwleidyddol lle nad yw gwleidyddiaeth bob dydd yn cyrraedd. Mae wedi ei throchi ynddi.” (Patrick McGuinness yn nation.cymru)
Er mai dyma’r Angladd Orau yn y Byd Erioed, roedd John Dixon yn fwy nag amheus o’r amgangyfri am nifer y gwylwyr teledu dros y byd – tros 4 biliwn…
“Mae’r ffigwr… yn dweud rhywbeth am yr eithriadolwyr cenedlaetholgar Seisnig a’u cred fod pethau sy’n digwydd ar yr ynysoedd hyn bownd o fod yr un mor bwysig i bawb arall… mae’n ymwneud â’r ffaith fod ganddyn nhw angen despret i gredu yn eithriadolrwydd eu gwlad eu hunain. Fe ddaeth un o’r esiamplau gorau gan Lefarydd Tŷ’r Cyffredin a wnaeth yr haeriad gwirioneddol ryfeddol mai angladd y Frenhines fyddai ‘y digwyddiad pwysica’ y bydd y byd yn ei weld byth’… Mae hynna’n dangos yr agwedd eithafol o hunan-bwysig sydd, gwaetha’r modd, yn endemig ymhlith ein llywodraethwyr.” (borthlas.blogspot.com)
Yn yr Alban, mae cenedlaetholwyr yn gweld hwn yn gefn-deuddwr o fath…
“Mae hyn yn teimlo fel pe baen ni ar fforch yn y ffordd. Bydd hyn – nad oes modd ei alw’n ddim ond hysteria torfol – yn creu cenedl newydd o’r enw ‘Prydain’, neu bydd yn cael ei weld yn ddiwedd pan fydd y fath gasgliad rhyfedd o sefydliadau yn cael eu gweld yn wirioneddol fethiannus ac anacronistaidd.” (Mike Small ar bellacaledonia.org.uk)
Roedd Ifan Morgan Jones yn gweld arwyddocâd i ymweliad y brenin newydd â Chaerdydd – yn y ffaith ei fod yn gorfod cydnabod ei statws…
“Gan draddodi hanner ei araith yn Gymraeg, galwodd Gymru’n ‘wlad arbennig’ a theimlodd hyd yn oed fod rhaid crybwyll y Tywysogion a arweiniodd Gymru annibynnol cyn y goncwest. Roedd hi’n amlwg fod ôl llawer o waith meddwl a gwaith yn ei eiriau ac roedden nhw hyd yn oed yn fwy trawiadol o’u cyfosod ag ‘undeboliaeth gyhyrog’ llywodraeth y Deyrnas Unedig… Ymhen ychydig wythnosau, bydd yr un strydoedd… yn llawn o orymdeithwyr tros annibyniaeth i Gymru. Efallai fod yr ymweliad yma gan y Brenin yn sioe o awdurdod top-i-lawr. Ond dangosodd ei sylwedd fod cenhedloedd yn cael eu creu o’r gwaelod i fyny.” (nation.cymru)
Ac o sôn am y Tywysogion… wrth i rai o ddigwyddiadau Diwrnod Glyndŵr gael eu canslo, mi gafodd Royston Jones siom wrth weld cyflwr safle Sycharth, cartre’ Owain, sy’n eiddo i stad breifat…
“Ar hyn o bryd, mae teimlad o esgeulustod ynglŷn â’r safle cyfan, fel petai rhai pobl yn dymuno na fyddai raid iddyn nhw drafferth. Fel pe ba baen nhw am i neb fynd i Sycharth. Os gall Llywodraeth honedig Cymru ddod o hyd i £4.25m i brynu fferm Gilstwn… ar gyfer Gŵyl y Dyn Gwyrdd – yna dw i’n berffaith siŵr y gall ddod o hyd i ychydig filoedd i brynu’r cae sy’n cynnwys cartre’ Owain Glyndŵr.” (jacothenorth.net/blog)