Mae enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen 2022 wedi sôn rhagor am ei hymateb i’r feirniadaeth hallt a gafodd am y defnydd o Saesneg yn ei nofel fuddugol, gan ddweud bod y beirniad dan sylw wedi “mynd dros ben llestri”.

Fe fuodd Meinir Pierce Jones yn sgwrsio am ei nofel hanesyddol, Capten, yng nghwmni’r Athro Gerwyn Wiliams yng ngardd gefn Palas Print, Caernarfon brynhawn Sadwrn, yn rhan o ddathliadau pen-blwydd y siop llyfrau yn 20 oed.