Ar adegau fel hyn licien i bod gen i ateb i Gwestiynau Mawr Ein Hoes. Yn anffodus, does gen i ddim chwa gref o deimlad y naill ffordd na’r llall am Ddigwyddiadau Mawr yr wythnos hon, hyd yn hyn – ‘mond rhyw deimlad o wylio pasiant rhyfedd trwy hidlen. Mae bod dynol wedi marw, ac mae gan bawb farn am y peth – achos fel pob bod dynol, person cymhleth oedd Elizabeth Windsor. Am bob teyrnged elusennol, gellir pwyntio bys at erchyllterau’n ymerodraeth. Am bob atgof ffeind, atgof o rôl y peiriant Bren